Mae un o gyn-chwaraewyr Clwb Pêl-droed Fulham yn honni bod y clwb yn ffafrio chwaraewyr â chroen gwyn ar draul chwaraewyr croenddu.
Daw sylwadau Max Noble, cyn-chwaraewr ieuenctid gyda’r clwb, wrth iddo fe gyflwyno cyfres o gwynion ynghylch y clwb ac mae’n dweud bod 150 o bobol eraill wedi cysylltu â fe â chwynion tebyg am academïau clybiau eraill.
Mae Clwb Pêl-droed Fulham yn cynnal ymchwiliad i’r cwynion.
Yr honiadau
Mae’n dweud iddo gael rhybudd y byddai’n cael ei ollwng o’r tîm pe na bai’n cydweithio ag asiant roedden nhw wedi’i ddewis ar ei gyfer, ac fe gafodd ei orfodi i gymryd tabledi lladd poen er mwyn ymarfer a chwarae.
Mae e hefyd yn honni bod y clwb wedi gwrthod talu am lawdriniaeth cyn i’w gytundeb ddod i ben, ac mae’n galw ar glybiau i sicrhau eu bod nhw’n gofalu am chwaraewyr ifainc sy’n cael eu rhyddhau ar ddiwedd eu cytundebau.
Mae’n honni bod chwaraewyr â chroen gwyn hefyd yn cael eu ffafrio ar draul chwaraewyr croenddu oedd yn cael eu gorfodi i fwyta cinio mewn ystafell frwnt yn hytrach na’r ffreutur.
Mae’n dweud iddo ddioddef o iselder a gorbryder ar ôl gadael y clwb, ac fe dderbyniodd e negeseuon gan 150 o gyn-chwaraewyr ar ôl cyhoeddi fideo yn trafod ei brofiadau.
Mae e wedi cymharu’r sefyllfa â “chamdrin”.
Ymateb Fulham
Wrth ymateb, mae Clwb Pêl-droed Fulham yn dweud eu bod nhw’n “condemnio bwlio, hiliaeth a gwahaniaethu o unrhyw fath”, ac y byddan nhw’n cynnal ymchwiliad.
Yn ôl Scott Parker, y rheolwr presennol, “mae mesurau yn eu lle yn nhermau amddiffyn” erbyn hyn, ac mae “protocolau lu yn eu lle ar gyfer chwaraewyr ifainc”.