Mae Prif Hyfforddwr Iwerddon, Andy Farrell, wedi dweud ei fod wedi gweld gwahaniaeth yn nhîm Cymru ers i Wayne Pivac gymryd yr awenau gan Warren Gatland.

Dywedodd ei fod yn disgwyl i’r to fod ar gau yn Stadiwm Principality ac y bydd Cymru yn chwarae “gêm debyg i’r hyn roedden nhw’n ei chwarae ar ddechrau’r ymgyrch ddiwethaf.”

Daw ei sylwadau ychydig dros wythnos cyn y bydd y Gwyddelod yn teithio i Gaerdydd i wynebu Cymru ar benwythnos agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Ers cael ei benodi yn Brif Hyfforddwr yn 2019 mae Wayne Pivac wedi colli yn erbyn Iwerddon ddwywaith, unwaith ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ac unwaith yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref y llynedd.

Daw ei unig fuddugoliaethau fel Prif Hyfforddwr y tîm cenedlaethol yn erbyn yr Eidal a Georgia.

‘Gwahaniaeth a gwrthgyferbyniad’

Fodd bynnag mae Andy Farrell yn mynnu fod enghreifftiau o chware “gwych” gan Gymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae sicr gwahaniaeth ac mae gwrthgyferbyniad mewn arddull o chwarae,” meddai Andy Farrell yn ystod lansiad ar lein y bencampwriaeth.

“Bydd pob hyfforddwr yn addasu i’r tîm maen nhw’n chwarae yn ei erbyn a’r amodau o wythnos i wythnos.

“Os rydych yn edrych ar gêm gyntaf Wayne, dan y to yn erbyn yr Eidal y llynedd, roedden nhw’n trafod y bêl yn dda.”

Fe chwalodd Cymru’r Eidal 42-0 ar ddechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y llynedd. 

“Roedden nhw’n chwarae’n llydan ac reodd ganddyn nhw barhad da wrth ymosod, ac mae hynny’n rhywbeth rydyn ni wedi’i weld pan oedd Wayne yn hyfforddi’r Scarlets,” ychwanegodd Andy Farrell.

“Dyna arddull Wayne, ac roedd yn wych ar yr achlysur hwnnw.

“Mae’n debyg, wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen, yn amlwg mae canlyniadau ac amodau wedi dangos bod gan Wayne ffyrdd eraill o chwarae hefyd.

“Rydyn ni’n eu chwarae nhw gyntaf. Dwi’n meddwl y bydd y to ar gau, felly rydyn ni’n disgwyl i Gymru chwarae’r gêm roedden nhw’n ei chwarae ar ddechrau’r ymgyrch ddiwethaf.”

Ychwanegodd capten Iwerddon, Johnny Sexton, ei fod yn ffyddiog y bydd yn holliach i wynebu Cymru ar Chwefror 7. Anafodd y maswr ei goes yn erbyn Munster y penwythnos diwethaf.