Mae Cymru wedi ymestyn eu rhediad di-guro yn erbyn yr Eidal yn y Chwe Gwlad i 14 o gemau, gyda buddugoliaeth swmpus o 42-0 dros yr Eidal yng Nghaerdydd.
Dyma’r wythfed gêm iddyn nhw drechu’r Eidal o fwy nag ugain pwynt yn y Chwe Gwlad, a’u wythfed buddugoliaeth gartref yn olynol yn y Chwe Gwlad, gan efelychu eu record eu hunain.
Sgoriodd Josh Adams hatric o geisiau.
Mae’r Eidal bellach wedi colli 23 gêm yn olynol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Hanner cyntaf cryf
Aeth Cymru ar y blaen o fewn pedair munud, wrth i Dan Biggar gicio triphwynt o flaen y pyst ar ôl i’r Eidal droseddu yn ardal y dacl.
Bylchodd Josh Adams yn fuan wedyn, ond aeth y bêl yn ei blaen o ddwylo Leigh Halfpenny i leddfu’r pwysau ar yr Eidalwyr.
Ond dyblodd Cymru eu mantais rai munudau wedyn wrth i’r Eidalwyr gael eu cosbi yn ardal y dacl.
Bu’n rhaid i Johnny McNicholl adael y cae am asesiad i’w ben ar ôl cael anaf yn y cymal hwnnw, a Nick Tompkins yn dod ymlaen yn ei le i ennill ei gap cyntaf.
Ciciodd Biggar drydedd cic gosb wrth i droseddu’r Eidal barhau, a Chymru ar y blaen o 9-0.
Bu cyn drafod ar ôl i Josh Adams groesi am gais, ond fe gafodd ei ganiatáu yn y gornel, ond methodd Dan Biggar â’i drosi.
Daeth ail gais i Josh Adams yn dilyn pàs glyfar gan Dan Biggar drwy ei goesau a hwnnw’n ychwanegu dau bwynt arall.
Cymru’n blino dan bwysau
Yr Eidal gafodd y gorau o’r meddiant yn gynnar yn yr ail hanner, wrth i goesau Cymru ddechrau blino.
Ond coesau ffres Nick Tompkins roddodd ail wynt iddyn nhw wrth iddo groesi am ei gais cyntaf yn y crys coch, a Dan Biggar yn trosi i’w gwneud hi’n 28-0 ar ôl awr.
Fe fu bron i’r sgoriwr greu cais i George North yn fuan wedyn, ond penderfynodd y dyfarnwr fideo fod y bêl wedi mynd ymlaen o’r dwylo.
Ond fe gafodd y canolwr gais bum munud cyn y diwedd, wrth iddo hyrddio drosodd cyn i Leigh Halfpenny drosi i’w gwneud hi’n 35-0.
Fe wnaeth Josh Adams gau pen y mwdwl gyda chais oddi ar y cymal olaf.
Bydd Wayne Pivac wedi’i blesio gan ymdrech y tîm drwyddi draw, yn enwedig gwaith diwyd y blaenasgellwr Justin Tipuric, a gafodd ei enwi’n seren y gêm.