Mae Josh Adams a Dan Biggar wedi rhoi Cymru ar ben ffordd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, wrth iddyn nhw arwain yr Eidal o 21-0 ar yr egwyl yng Nghaerdydd.

Aeth Cymru ar y blaen o fewn pedair munud, wrth i Dan Biggar gicio triphwynt o flaen y pyst ar ôl i’r Eidal droseddu yn ardal y dacl.

Bylchodd Josh Adams yn fuan wedyn, ond aeth y bêl yn ei blaen o ddwylo Leigh Halfpenny i leddfu’r pwysau ar yr Eidalwyr.

Ond dyblodd Cymru eu mantais rai munudau wedyn wrth i’r Eidalwyr gael eu cosbi yn ardal y dacl.

Bu’n rhaid i Johnny McNicholl adael y cae am asesiad i’w ben ar ôl cael anaf yn y cymal hwnnw, a Nick Tompkins yn dod ymlaen yn ei le i ennill ei gap cyntaf.

Ciciodd Biggar drydedd cic gosb wrth i droseddu’r Eidal barhau, a Chymru ar y blaen o 9-0.

Bu cyn drafod ar ôl i Josh Adams groesi am gais, ond fe gafodd ei ganiatáu yn y gornel, ond methodd Dan Biggar â’i drosi.

Daeth ail gais i Josh Adams yn dilyn pàs glyfar gan Dan Biggar drwy ei goesau a hwnnw’n ychwanegu dau bwynt arall.