Mae Johnny McNicholl yn dweud ei fod e’n edrych ymlaen at y profiad o ennill ei gap cyntaf dros Gymru ac at ganu ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 1).

Mae’r asgellwr, sy’n enedigol o Seland Newydd, eisoes wedi ymddangos yng nghrys Cymru – yn y gêm ddi-gap yn erbyn y Barbariaid yn yr hydref – ac mae e wedi bod yn cael cymorth Steff Hughes, chwaraewr y Scarlets, i ddysgu’r geiriau.

“Dw i wedi bod yn bwrw ati’n ddi-baid gyda’r anthem,” meddai ar drothwy’r gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn yr Eidal yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.

“Dyw [y Gymraeg] ddim yn iaith dw i’n ei nabod, felly mae ynganu’n anodd iawn i fi.

“Ond mae Steff Hughes wedi bod yn dda iawn o ran hynny yn ei sgrifennu hi sut mae hi’n cael ei sgrifennu yn y Gymraeg a sut fyddwn i’n ei dweud hi yn Saesneg.

“Ac felly mae hi dipyn haws i dysgu a dw i’n edrych ymlaen at drio’i morio canu hi ddydd Sadwrn.

“Dw i bron iawn yn ei gwybod hi ar fy nghof, a’r llinell olaf yn unig sydd gyda fi i’w chofio nawr.

“Dylwn i fod yn barod erbyn diwrnod y gêm.”

Paratoi i chwarae dros Gymru

Ac yntau’n gymwys i gynrychioli Cymru ar ôl byw yma ers 2016, mae Johnny McNicholl yn dweud ei fod e wedi bod yn paratoi ar gyfer ei gap cyntaf ers cryn amser.

“Roedd gyda fi’r nod tymor hir o chwarae dros Gymru pan ddes i yma,” meddai.

“Wnes i ddim cyhoeddi hynny, fe wnes i gadw’r nod i fi fy hun tan bod yr amser yn briodol.

“Ond do, dw i wedi bod yn meddwl am yr eiliad yma am amser hir.”

Ac mae’n dweud bod Wayne Pivac, ei gydwladwr a’i hyfforddwr yn y Scarlets, wedi bod yn allweddol yn y broses o gymhwyso.

“Os edrychwch chi ar y Scarlets, pan maen nhw’n dewis eu tîm cyntaf mae yna safon uchel o rif un i rif 23.

“Felly ro’n i’n gwybod nad o’n i’n cymryd cam yn ôl o safbwynt rygbi.

“Roedd chwaraewyr rhyngwladol ar draws y cae, felly fe gawson ni sgwrs a’r nod o hyd oedd cymhwyso i gynrychioli Cymru.”

“Mae [Wayne Pivac] wedi bod yn brwydro drosof fi dros y tair blynedd diwethaf, ac roedd hi’n braf ei fod e wedi dechrau hyfforddi Cymru wrth i fi gymhwyso oherwydd mae’n gwybod beth alla i ei wneud a’r hyn dw i wedi’i wneud drosto fe yn y gorffennol, ac mae e’n ymddiried ynof fi.”