Fe wnaeth sawl chwaraewr blaenllaw adael Clwb Pêl-droed Abertawe wrth i’r ffenest drosglwyddo gau’n glep am 11 o’r gloch neithiwr (nos Wener, Ionawr 31).
Y mwyaf blaenllaw ohonyn nhw yw Borja Bastón, sy’n ymuno ag Aston Villa yn Uwch Gynghrair Lloegr yn rhad ac am ddim.
Daw’r newyddion wrth i’r Elyrch deithio i Preston heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 1), lle mae disgwyl iddyn nhw wynebu un arall o’u cyn-chwaraewyr, Scott Sinclair.
Talodd yr Elyrch £15m am Borja Bastón yn 2016 ond wrth mae ei gyflog wedi costio’n ddrud i’r clwb ar ôl iddyn nhw ostwng i’r Bencampwriaeth, ac maen nhw wedi cytuno y gall e adael y clwb rai misoedd yn gynnar.
Yn y cyfamser, mae cyfnod aflwyddiannus Tom Carroll gyda’r clwb hefyd wedi dod i ben.
Symudodd y chwaraewr canol cae i Stadiwm Liberty yn 2017 ond fe ymunodd e ag Aston Villa ar fenthyg yn Ionawr 2019, a hynny am weddill y tymor cyn dychwelyd yn gynnar ar ôl anafu ei glin.
Mae anafiadau wedi cwtogi ei amser ar y cae ers cryn amser, a phrin fu ei gyfleoedd ers i Steve Cooper gael ei benodi’n rheolwr ar ddechrau’r tymor.
Mewn dau gyfnod gyda’r clwb, sgoriodd e dair gôl mewn 103 o gemau.
Chwaraewyr ar y cyrion
Yn y cyfamser, mae’r amddiffynnwr ifanc Cian Harries wedi symud i Bristol Rovers yn barhaol.
Mae’r cefnwr chwith Declan John wedi ymuno â Sunderland ar fenthyg tan ddiwedd y tymor, a’r chwaraewr canol cae Barrie McKay wedi ymuno â Fleetwood ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.
Mae Jack Evans, oedd wedi gwella o ganser ddechrau’r flwyddyn ddiwethaf, wedi ymuno â Mansfield ar fenthyg am weddill y tymor.
Yn ystod y ffenest, fe wnaeth yr Elyrch ddenu Conor Gallagher a Marc Guehi ar fenthyg o Chelsea a Rhian Brewster ar fenthyg o Lerpwl.
Mae Kristoffer Nordfeldt, Kristoffer Peterson a Sam Surridge hefyd wedi gadael y clwb yn ystod y mis.