Caerdydd 1–1 Reading
Gorffen yn gyfartal a wnaeth hi rhwng Caerdydd a Reading am yr eildro mewn wythnos wrth i’r ddau dîm herio’i gilydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener.
Gôl yr un a oedd hi yn y gêm gwpan yn Reading ddydd Sadwrn diwethaf ac felly y gorffennodd hi yn y gêm Bencampwriaeth yng Nghaerdydd chwe diwrnod yn ddiweddarach hefyd. Yn wir, yr un ddau chwaraewr a sgoriodd y goliau, Meite i’r ymwelwyr a Paterson i’r tîm cartref.
Wyth munud yn unig a oedd ar y cloc pan agorodd Yakou Meite y sgorio, yn penio Reading ar y blaen yn dilyn symudiad taclus.
Felly yr arhosodd hi tan ugain munud o’r diwedd pan daniodd Callum Paterson i gefn y rhwyd wedi llanast yng nghwrt chwech Reading.
Gorffennodd Caerdydd y gêm yn gryf wedi hynny ond bu rhaid iddynt fodloni ar bwynt yn unig.
Mae’r canlyniad yn codi tîm Neil Harris i’r unfed safle ar ddeg yn nhabl y Bencampwriaeth cyn gweddill gemau’r penwythnos.
.
Caerdydd
Tîm: Smithies, Richards, Morrison, Nelson, Bennett, Vaulks, Pack, Whyte (Bacnua 45’), Tomlin, Hoilett (Ward 45’), Paterson
Gôl: Paterson 70’
Cardiau Melyn: Richards 56’, Nelson 88’, Morrison 90’
.
Reading
Tîm: Cabral Barbosa, Gunter, Morrison, Moore, McIntyre, Swift (Adam 78’), Tuncara Gomes, Ejaria, Obita (Richards 86’), Baldock (Puscas 83’), Meite
Gôl: Meite 8’
Cardiau Melyn: Obita 56’ Baldock 45+1’
.
Torf: 22,518