Fydd tîm rygbi Cymru ddim yn edrych yn ôl wrth i’r prif hyfforddwr Wayne Pivac eu harwain ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad am y tro cyntaf yfory (dydd Sadwrn, Chwefror 1).

Maen nhw’n herio tîm yr Eidal sy’n dechrau ar eu cyfnod newydd eu hunain o dan arweiniad y prif hyfforddwr Franco Smith.

Fe wnaeth Cymru fwynhau cyfnod euraid gyda Warren Gatland, gan ennill tair Camp Lawn a chyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd ddwywaith.

Ond mae Alun Wyn Jones yn pwysleisio bod cyfnod newydd ar ddechrau yng Nghymru.

“Ry’n ni wedi cael cryn dipyn o newid,” meddai, wrth gyfarfod â’r wasg yn Stadiwm Principality.

“Dyma’r tro cyntaf o dan Wayne Pivac ac mae hynny’n destun cyffro.

“Ry’n ni wedi cael sawl wythnos gyda’n gilydd ac rydyn ni’n ysu am fynd allan a gweld lle’r ydyn ni arni.

“Roedd Gats yn amlwg yma am amser hir, 11 o flynyddoedd, ac yn llwyddiannus.

“Ond dyma’r tro cyntaf i Wayne a dw i a’r criw yn ymwybodol nad ydyn ni am edrych yn ôl.

“Mae’r tîm rheoli newydd yn ei le ac mae’r sylw ar yfory a’r hyn sydd i ddod.

“Ry’n ni wedi cael un fuddugoliaeth eisoes [yn erbyn y Barbariaid], mae hon yn un fawr i dîm rheoli newydd ddod i mewn a chael cyfnod byr ar ôl Cwpan y Byd.”

Awyrgylch da yn y garfan

 Mae’r capten yn ategu sylwadau’r prif hyfforddwr wrth ddweud pa mor bositif yw’r awyrgylch yn y garfan ar drothwy gêm gynta’r gystadleuaeth.

Ond mae yna ansicrwydd hefyd wrth wynebu tîm yr Eidal sydd â phrif hyfforddwr a chapten newydd.

“Fe fu cryn newid gyda hyfforddwr a chapten newydd, maen nhw bob amser wedi cynnig syrpreis a dydych chi ddim wir yn gwybod beth gewch chi o ran yr hyn maen nhw’n ei wneud yn y pac a’r chwarae gosod.

“Mae Franco Smith wedi dangos gyda’r Cheetahs a thimau eraill y bu’n eu hyfforddi ei fod e’n hoffi symud y bêl a chyfuno agweddau.

“Byddan nhw’n sicr yn cynnig syrpreis.”

‘Cyffro yn stadiwm gorau’r byd’

 Dywed Alun Wyn Jones fod cyffro ychwanegol i’w gael yn y gêm wrth ddechrau’r Chwe Gwlad yn Stadiwm Principality.

“Dydyn ni ddim yn dechrau o’r dechrau.

“Mae’n destun cyffro ein bod ni’n dechrau yn stadiwm gorau’r byd. Dyma fy ngêm gyntaf o dan Wayne Pivac ac mae hynny’n fraint.”