Mae’n aneglur a fydd rhaid i dîm rygbi Cymru ynysu cyn chwarae Ffrainc ym Mharis ar benwythnos olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae Llywodraeth Ffrainc eisoes wedi caniatáu i’w tîm cenedlaethol deithio i’r Eidal ag Iwerddon, ond maen nhw eto i roi sêl bendith i’w gêm yn erbyn Lloegr yn Twickenham na gemau cartref y Ffrancwyr yn erbyn yr Alban a Chymru.

Daw hyn wedi i Gwpan Pencampwyr Heineken a’r Cwpan Her gael eu hatal dros dro ar ôl i lywodraeth Ffrainc ddweud na ddylai cybiau chwarae yn y cystadlaethau fis Ionawr.

Mae trefnwyr y Chwe Gwlad wedi llunio cynlluniau wrth gefn ac wedi cryfhau rheolau coronafeirws i geisio argyhoeddi Llywodraeth Ffrainc y gellir cynnal y digwyddiad yn ddiogel.

Eglurodd Prif Hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, y byddai nifer y profion Covid-19 yn dyblu.

‘Mae yna atebion’

Os bydd yn rhaid galw gemau i ffwrdd oherwydd achosion o’r coronafeirws ymhlith unrhyw un o’r carfanau, yna mae trefnwyr y gystadleuaeth yn mynnu y byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i chwarae’r gemau ar ddyddiad arall.

Mae pythefnos o orffwys yn cynnig cyfle i wneud hyn, ond eglurodd na fyddai gemau sy’n cael eu canslo yn arwain at fuddugoliaeth o 28-0 fel digwyddodd yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref y llynedd.

“Yr unig beth rydyn ni’n aros am gadarnhad yn ei gylch yw’r angen i ynysu am saith diwrnod [yn Ffrainc] ac i bwy mae hynny’n berthnasol,” meddai Prif Weithredwr y Chwe Gwlad, Ben Morel,  yn ystod lansiad y bencampwriaeth.

“Yn gyffredinol, mae chwaraeon elît yn eithriad oherwydd bod ganddynt brotocolau llym.

“Rydym yn edrych ar gyfres o gynlluniau wrth gefn, ond dydyn ni ddim disgwyl cael y broblem honno.

“Pe bai hynny’n wir, yna efallai byddai’r Alban yn chwarae ar benwythnos arall a byddai Cymru’n teithio o’r Eidal, felly mae yna atebion.

“Rydym yn hyderus yn ein gallu i lwyfannu’r gemau ar yr adeg iawn, mae’n ymwneud mwy â faint rhaid i’r logisteg gael ei addasu.”

Gemau Cymru yn y Bencampwriaeth eleni:

Cymru v Iwerddon Stadiwm Principality Chwefror 7, 15.00
Yr Alban v Cymru Stadiwm Murrayfield Chwefror 13, 16.45
Cymru v Lloegr Stadiwm Principality Chwefror 27, 16.45
Yr Eidal v Cymru Stadio Olimpico Mawrth 13, 14.15
Ffrainc v Cymru Stade de France Mawrth 20, 20.00

 

Covid-19 yn parhau i fod yn fygythiad i’r Chwe Gwlad, yn ôl Wayne Pivac

“Rydym yn ymwybodol iawn o’r bygythiad mae’r coronafeirws yn ei roi ar y gystadleuaeth, yn enwedig oherwydd yr amrywiolyn newydd.”