Ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, mae Gwyn Jones yn rhybuddio bod “pwysau aruthrol ar ysgwyddau” y prif hyfforddwr…

Mae Gwyn Jones, sylwebydd rygbi S4C a chyn-gapten Cymru, yn bendant mai Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni yw’r “pum gêm all benderfynu os yw Wayne Pivac yn aros” yn ei swydd ar gyfer Cwpan y Byd 2023 yn Ffrainc.