Ar un olwg, mae’n rhyfedd bod yr hyn sy’n digwydd dros yr Iwerydd, yn yr Unol Daleithiau, yn pwyso cymaint ar y meddwl.

Ond waeth i ni gydnabod bod yr hyn sy’n digwydd yno yn effeithio ar dalpau mawr o’r byd – y byd i gyd i bob pwrpas, am wahanol resymau.

A bu effaith Donald Trump yn un faleisus a digalon. A dweud y lleiaf.