Mae’r cyn-gynhyrchydd teledu wedi bod yn gwylio dwy gyfres dywyll ac un ddiniwed-annwyl am bêl-droed…

Os ydach chi’n chwilio am adolygiad o It’s a Sin (Channel 4) bydd rhaid ichi chwilio’n rhywle arall achos ar ôl 10 mis o’r pandemig yma, alla i jest ddim gwylio cyfres am haint newydd beryglus (AIDS) yn lledaenu. Mi wnaf wylio It’s a Sin yn y dyfodol rywbryd yn sicr, ond ddim rŵan.