Mae Mick McCarthy yn dweud ei fod e wrth ei fodd o gael ei benodi’n rheolwr newydd tîm pêl-droed Caerdydd tan ddiwedd y tymor.
Mae’n olynu Neil Harris, a gafodd ei ddiswyddo ddydd Iau (Ionawr 21) ar ôl chwe cholled o’r bron ar draws yr holl gystadlaethau.
Cafodd McCarthy, cyn-reolwr Gweriniaeth Iwerddon, Sunderland a Wolves, yntau ei ddiswyddo gan glwb APOEL yng Nghyprus ar Ionawr 6 ar ôl deufis – a naw gêm yn unig – wrth y llyw.
Mae McCarthy wedi penodi Terry Connor yn is-reolwr, tra bod James Rowberry ac Andy Dibble yn cael aros yn rhan o’r tîm hyfforddi.
“Dw i wrth fy modd o gael bod yma,” meddai Mick McCarthy wrth Cardiff City TV.
“Dw i wrth fy modd o gael y cyfle.
“Dw i jyst eisiau cael y clwb yn ôl yn ennill gemau a dw i eisiau cael gwên yn ôl ar wynebau’r chwaraewyr.
“Os ydyn ni’n gwneud hynny, yna byddwn ni’n rhoi’r wên yn ôl ar wynebau’r cefnogwyr.
“Mae gyda ni garfan dda o chwaraewyr a dw i’n edrych ymlaen at fwrw ati gyda’r gwaith.”
Gyrfa a sefyllfa Caerdydd
Cyn mynd i Gyprus, roedd Mick McCarthy yn rheolwr ar Weriniaeth Iwerddon am yr ail waith.
Daeth y swydd honno i ben fis Ebrill y llynedd yn sgil y coronafeirws wrth i gemau ail gyfle Ewro 2020 gael eu gohirio, ac fe gafodd McCarthy ei olynu gan Stephen Kenny.
Daeth ei swydd ddiwethaf yn Lloegr i ben yn 2018, ac yntau wedi bod wrth y llyw yn Ipswich ers 2012.
Mae’r Adar Gleision wedi llithro i’r pymthegfed safle yn y Bencampwriaeth, 13 pwynt islaw’r safleoedd ail gyfle.
Bydd e wrth y llyw ar gyfer y gêm yn Barnsley, y dref lle cafodd ei eni a thref ei glwb cyntaf, nos Fercher (Ionawr 27).
Cafodd Neil Harris ei benodi’n rheolwr fis Tachwedd 2019 gan arwain y tîm i rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle y tymor diwethaf.
Ond roedd y canlyniadau wedi gwaethygu’n ddiweddar ac fe ddaeth y cyhoeddiad anochel am ei ddyfodol ddiwedd yr wythnos.