Mae Liam Cullen, y Cymro ifanc sgoriodd ddwy gôl i Abertawe yn y fuddugoliaeth o 5-1 dros Nottingham Forest yng Nghwpan FA Lloegr ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 23), yn dweud bod ei waith paratoi wedi talu ar ei ganfed.

Dyma’r pedwerydd tro i’r ymosodwr 21 oed o Borthcawl ddechrau gêm i’r Elyrch, ac fe ddaeth ei ddwy gôl oddi ar ei droed chwith – ei ail a’i drydedd gôl i’r clwb, ar ôl ei gyntaf yn erbyn Reading yn y Bencampwriaeth ddiwedd y tymor diwethaf.

Fe fu’n rhaid iddo fe aros am ei gyfle yng nghrys yr Elyrch yn sgil perfformiadau diweddar Andre Ayew a Jamal Lowe ym mlaen y cae.

“Mae’n gyfle i’r bois nad ydyn nhw’n chwarae gymaint i brofi ein bod ni’n barod amdani os cawn ni’r alwad, ac mae hyn yn cynnal ein momentwm yn dda iawn,” meddai.

“Ro’n i’n falch o achub ar y cyfle, fe wnaeth sgorio yn erbyn Reading roi blas i fi o sut beth yw sgorio ac ro’n i eisiau cael y teimlad hwnnw’n ôl.

“Mae wedi bod yn flwyddyn hesb i fi, a dw i wedi trio peidio meddwl am y peth yn ormodol, a sicrhau fy mod i’n dal i chwarae fy ngêm ac yn pwyllo wrth i’r cyfleoedd ddod.

“Felly roedd hi’n braf eu gweld nhw’n mynd i mewn.

“Dw i wedi bod yn gweithio ar fynd i mewn i’r canol, cyrraedd y cwrt chwech a chysylltu â’r bêl yn lân.

“O gymaint â hynny allan, dyna sy’n rhoi’r cyfle gorau i chi sgorio.

“Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, dw i wedi gweithio tipyn ar hynny wrth ymarfer.”