Fe wnaeth Elfyn Evans orffen yn ail yn ras gyntaf Pencampwriaeth Ralio’r Byd ym Monte Carlo.
Mae naw pwynt rhwng y Cymro Cymraeg o Ddolgellau a Sébastien Ogier ar y brig ar ddiwedd penwythnos cynta’r bencampwriaeth.
Roedd gan y Ffrancwr a chyd-aelod Evans yn nhîm Toyota flaenoriaeth o 13 eiliad ar bedwerydd diwrnod y ras, gan orffen 32.6 eiliad ar y blaen yn y pen draw, a hynny mewn eira a rhew.
Cipiodd e’r pum pwynt pŵer hefyd.
Thierry Neuville o dîm Hyundai oedd yn drydydd.
Ymateb Elfyn Evans
“Dydyn ni ddim wedi bod 100% yn hyderus drwy’r penwythnos ond roedd hi’n bwysig gorffen ac mae P2 [yr ail safle] yn rhoi pwyntiau da a dechrau cadarn i’r flwyddyn i ni,” meddai Elfyn Evans ar Twitter.
“Cafodd @SebOgier benwythnos gwych ac mae’n ganlyniad ffantastig i @TGR_WRC gyda’r Yaris WRC unwaith eto’n profi’n anorchfygol.
“Dw i hefyd am ddiolch i fy nghriw nodiadau’r cwrs a @scottmartinat – mae wedi bod yn glasur o Monte gydag amodau’n newid drwy’r adeg, maen nhw wedi cael llawer o ddiweddariadau nodiadau cyflymdra a gwybodaeth i’w rheoli drwy’r penwythnos.
“Ac efo cefnogaeth wych gan @TGR_WRC mae’n ymdrech lew gan y tîm.”