Sgoriodd y mewnwr Rhys Webb ddau gais i sicrhau buddugoliaeth o 26-20 i’r Gweilch yn erbyn Connacht yn y PRO14 ar ddiwedd wythnos pan gafodd ei hepgor o garfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Roedden nhw ar ei hôl hi o 17-5 ar yr egwyl ar ôl i Alex Wootton a Paul Boyle groesi am geisiau i’r Gwyddelod.

Ond fe ddaethon nhw’n ôl yn yr ail hanner, er i Justin Tipuric weld cerdyn melyn, ar gyfer eu buddugoliaeth gyntaf yn Iwerddon ers 2016.

Ar ôl i George North groesi’n gynnar yn y gêm, croesodd Mat Protheroe a Webb o fewn munudau i’w gilydd cyn i’r mewnwr sgorio’i ail gais ar ôl 66 munud.

Gallai Connacht fod wedi mynd ar y blaen yn gynnar oni bai am bàs ymlaen gan Conor Fitzgerald i ddwylo Wootton ar yr asgell.

Ond y Gweilch gafodd y pwyntiau cyntaf ar ôl i Dan Lydiate atal cic a gwrthymosod cyn sefydlu sgarmes, ac fe wnaeth North, Tipuric a Dan Evans gyfuno cyn i’r asgellwr groesi.

Daeth sawl cyfle i’r Gwyddelod cyn i Wootton groesi yn y gornel ar ôl 28 munud.

Costiodd diffyg disgyblaeth y Gweilch yn ddrud cyn yr egwyl, wrth i’r Gwyddelod gyfuno i Paul Boyle gael croesi, a throsiad Luke Fitzgerald yn rhoi mantais o 12 pwynt iddyn nhw.

Ond parhau i bwyso wnaeth y Gweilch wrth i Protheroe groesi ar ôl 46 munud wrth gyfuno gyda North a Kieran Williams ar yr asgell dde.

Ciciodd Stephen Myler drosiad yn dilyn cais Webb, cyn i Luke Fitzgerald roi’r Gwyddelod ar y blaen gyda chic gosb wrth i Dan Lydiate gamsefyll.

Daeth cyfle hwyr i’r Gweilch o’r sgarmes cyn cyfres o sgrymiau ond cais oddi ar y lein gawson nhw yn y pen draw i gipio’r fuddugoliaeth, wrth i Webb dirio cyn i Myler ychwanegu’r ddau bwynt.

Mae’n golygu bod Connacht wedi colli pedair gêm yn olynol ar eu tomen eu hunain.