Ar benwythnos pedwaredd rownd y Cwpan FA, roedd cymysgedd o gemau cwpan, gemau cynghrair a gorffwys i chwaraewyr Cymru’r wythnos hon.

Cwpan FA

Daeth rhediad gwych Chorley yn y gystadleuaeth i ben wrth iddynt golli gartref yn erbyn Wolves nos Wener ac ychydig funudau’n unig oddi ar y fainc a gafodd Adam Henley.

Daeth perfformiad gorau’r bedwaredd rownd ar y Liberty brynhawn Sadwrn wrth i Abertawe drechu Nottingham Forest o bum gôl i un.

Roedd Connor Roberts yn ddylanwadol unwaith eto ar yr ochr dde ond seren y gêm a oedd y blaenwr ifanc, Liam Cullen. Y bachgen o Ddinbych-y-pysgod a sgoriodd gôl gyntaf a phedwaredd ei dîm, y ddwy ohonynt yn rhai taclus iawn ar y cyffyrddiad cyntaf â’i droed chwith. Yr unig siom oedd ei weld yn gadael y cae gydag anaf cyn cael cyfle i gwblhau ei hatric.

Cymro a sgoriodd gôl olaf yr Elyrch hefyd wrth i’r eilydd, Ollie Cooper, rwydo ei gyntaf i’r clwb ar ei ail ymddangosiad.

Roedd buddugoliaeth i Ethan Ampadu ddydd Sadwrn hefyd wrth i’w dîm, Sheffield United, ennill o ddwy gôl i un yn Plymouth. Bu bron i’r Cymro ennill cic o’r smotyn wrth i ergyd ganddo gael ei hatal gan ddwylo amddiffynnwr ond ni chafodd ei rhoi gan y dyfarnwr. Dechreuodd Luke Jephcott i’r gwrthwynebwyr ond methodd y blaenwr ifanc a chreu argraff a chafodd ei eilyddio toc wedi’r awr.

Colli’n drwm a fu hanes Matthew Smith wrth i Doncaster ymweld â West Ham brynhawn Sadwrn ac roedd Chris Maxwell a Jordan Williams yn nhîm Blackpool wrth iddynt hwy fynd allan o’r Cwpan yn Brighton.

Luton yn erbyn Chelsea yn Stamford Bridge a oedd y gêm gynnar ddydd Sul. Nid oedd Joe Morrell yng ngharfan Nathan Jones ond dechreuodd Tom Lockyer yn yr amddiffyn a chael diwrnod anodd yn erbyn ymosod drud Chelsea, tair i un y sgôr terfynol.

Roedd ymddangosiad prin yn y gôl i Danny Ward wrth i Gaerlŷr ymweld â Brentford ac er iddo ildio gôl gynnar digon blêr, taro nôl a wnaeth ei dîm i ennill o dair i un.

Y gêm rhwng Man U a Lerpwl yn Old Trafford nos Sul a oedd gêm fwyaf y rownd ond gwylio o’r fainc a wnaeth Dan James i United a Neco Williams i’r ymwelwyr.

Nid yw Spurs a Wycombe yn chwarae tan nos Lun, na Bournemouth tan nos Fawrth.

*

Y Bencampwriaeth

Roedd gêm gynghrair i ambell dîm a oedd eisoes allan o’r Cwpan ond roedd hi’n benwythnos i’w anghofio i Gymru’r Bencampwriaeth yn anffodus.

Mae nifer ohonynt yn chwarae i Stoke wrth gwrs a cholli fu eu hanes hwy yn erbyn Watford. Roeddynt ddwy gôl ar ei hôl hi cyn i Joe Allen greu gôl gysur hwyr i Steven Fletcher. Dechreuodd James Chester a Rhys Norrington-Davies hefyd ac roedd munudau oddi ar y fainc i Rabbi Matondo a Sam Vokes.

Ched Evans a oedd yr unig Gymro arall i gael unrhyw gyfle ar y gwair, yn chwarae pum munud yn unig o gêm ddi sgôr Preston yn erbyn Reading ddydd Sul.

*

Cynghreiriau is

Gwahaniaeth goliau yn unig sydd yn cadw Lincoln o frig yr Adran Gyntaf wedi iddynt guro Northampton o ddwy gôl i un. Chwaraeodd Brennan Johnson 90 munud i’r Imps.

Ennill o bedair i ddim yn Portsmouth a wnaeth Hull gydag Ellis Harrison yn methu a gwneud llawer o argraff oddi ar y fainc i Pompey.

Cyfartal, dwy gôl yr un, a oedd hi rhwng Charlton a Swindon ar y Valley gyda Chris Gunter, Adam Matthews a Jonny Williams i gyd yn dechrau i’r tîm cartref, ond Joniesta yn cael ei eilyddio ar hanner amser. Dechreuodd Kieron Freeman i Swindon, ei ymddangosiad cyntaf ers arwyddo o Sheffield United yn gynharach yn yr wythnos, yn dilyn cyfnod aflwyddiannus ar fenthyg gyda Portsmouth.

Colli a fu hanes Gwion Edwards gydag Ipswich yn erbyn Peterborough ac felly hefyd Cian Harries gyda Bristol City yn erbyn Rhydychen.

Daeth cyfnod llwyddiannus Tom James ar fenthyg yn Wigan i ben yr wythnos hon ac ymunodd amddiffynnwr Hibs â Salford yn yr Ail Adran am weddill y tymor, gan chwarae am y tro cyntaf mewn gêm gyfartal yn erbyn Harrogate nos Wener.

Roedd Casnewydd yng nghyffiniau Manceinion yn yr Ail Adran y penwythnos hwn hefyd, yn colli cyfle i ddychwelyd i frig y tabl wrth golli yn Oldham ddydd Sadwrn.

Chwaraeodd Tom King yn y gôl i’r Alltudion, ychydig ddyddiau ar ôl rhoi ei enw yn y llyfrau hanes wrth sgorio gôl o’i gwrt chwech ei hun yn erbyn Cheltenham ganol wythnos!

Methodd Josh Sheehan y gêm gyda gwaharddiad ond dechreuodd Liam Shephard i’r tîm o Gymru a daeth Ash Baker a Lewis Collins oddi ar y fainc i dîm Mike Flynn.

Chwaraeodd George Williams 45 munud i Grimsby wrth iddynt hwy golli’n drwm yn erbyn Scunthorpe.

*

Yr Alban a thu hwnt

Mae Aberdeen yn ôl yn drydydd yn Uwch Gynghrair yr Alban ar ôl curo Motherwell o ddwy gôl i ddim ddydd Sadwrn. Serennodd Ryan Hedges unwaith eto ac roedd yn ganolog wrth greu ail gôl ei dîm i Andrew Considine. Chwaraeodd Ash Taylor ei ran yn y llechen lân yn y pen arall.

Mae’r canlyniad yn codi Aberdeen dros Hibs, a oedd yn chwarae yn rownd gynderfynol Cwpan y Gynghrair yn erbyn St Johnstone. Colli o dair gôl i ddim a oedd eu hanes wrth i Christian Doidge fethu a chreu argraff ar ôl dod i’r cae fel eilydd yn gynnar yn yr ail hanner.

Roedd llechen lân i Owain Fôn Williams wrth i Dunfermline gael gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Ayr United ym Mhencampwriaeth yr Alban.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Robbie Burton i Dinamo Zagreeb yn Uwch Gynghrair Croatia ddydd Sadwrn ac nid oedd James Lawrence yng ngharfan St. Pauli yn yr Almaen ddydd Sul.

Chwaraeodd Aaron Ramsey ddeuddeg munud olaf buddugoliaeth Juventus yn erbyn Bologna brynhawn Sul, ac yng Ngwlad Belg nos Sul, dechrau ar y fainc a wnaeth Andy King wrth i Leuven groesawu Gent. Daeth i’r cae am yr ugain munud olaf ond roedd ei dîm eisoes dair gôl i ddim ar ei hôl hi.

 

Gwilym Dwyfor