Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £17.7m i gampau sydd wedi cael eu heffeithio gan ddiffyg torfeydd o ganlyniad i’r coronafeirws.

Bwriad yr arian yw rhoi cymorth i glybiau yn ystod misoedd y gaeaf fel bod modd iddyn nhw baratoi i groesawu gwylwyr eto erbyn y tymor newydd ym mis Medi.

Bydd swm sylweddol o’r arian hwn yn mynd i feysydd rygbi, pêl-droed, criced a hoci iâ, tra bydd peth cymorth ar gael hefyd i rygbi’r gynghrair, pêl-rwyd a rasio ceffylau.

Bydd yn sicrhau parhad tymor byr a chanolig y campau a’u sefydliadau a chlybiau sydd wedi cael eu heffeithio’n ariannol o ganlyniad i’r cyfyngiadau ar wylwyr mewn caeau a stadiymau.

Cyrff llywodraethu’r campau fydd yn dosbarthu’r arian yn ôl yr angen.

Ymateb

“Er bod cyfyngiadau ar gefnogwyr mewn digwyddiadau wedi bod yn hanfodol er mwyn atal y feirws rhag lledaenu ac achub bywydau, does dim dwywaith eu bod wedi creu caledi gwirioneddol i lawer o glybiau chwaraeon,” meddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

“Mae llawer ohonyn nhw’n cael cyfran sylweddol o’u hincwm drwy bresenoldeb gwylwyr.

“Mae chwaraeon yn sector pwysig o’n heconomi ac yn cael effaith gadarnhaol ar ein lles meddyliol a chorfforol.

“Mae digwyddiadau chwaraeon yn gyfleoedd pwysig i rannu profiadau, ac yn aml, maen nhw wedi tynnu’n sylw oddi ar y pandemig mewn ffordd dderbyniol iawn.

“Byddan nhw’n chwarae rhan hanfodol wrth gynnig adferiad ac iachâd inni ar ôl yr argyfwng.

“Rwy’n gwybod y bydd yr arian hwn yn rhoi rhywfaint o sefydlogrwydd i’r chwaraeon hynny yr effeithiwyd arnyn nhw waethaf yn sgil colli refeniw yn ystod y pandemig, gan helpu i bontio’r bwlch ariannol nes bod gwylwyr yn gallu dychwelyd yn ddiogel.”

Yn ôl Rebecca Evans, yr Ysgrifennydd Cyllid, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi rhoi £40m o gymorth ers dechrau’r pandemig.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i fynd ati mewn ffordd gyfrifol, fydd wedi’i thargedu, o fynd i’r afael ag effaith ariannol y pandemig,” meddai.

“Mae’r pecyn cymorth a gyhoeddwyd gennym heddiw yn mynd â chyfanswm y cyllid ar gyfer y sector hwn i fwy na £40m ers dechrau’r argyfwng, gan helpu i gynnig sefydlogrwydd yn y tymor hwy i sector sydd wedi dioddef colled ariannol sylweddol.

“Wrth inni edrych ymlaen at ddyddiau gwell, bydd chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn chwarae rhan hanfodol yn ein hadferiad, gan helpu i ddatblygu Cymru iachach a chryfach.”