Colli 2-1 a wnaeth Wrecsam yn Chesterfield y pnawn yma wrth i Akwasi Asante sgorio dwy gôl yn eu herbyn.

Rhoddodd Asente y tîm cartref ar y blaen yn y nawfed munud, cyn i gic o’r smotyn gan Luke Young ddod â Wrecsam yn gyfartal ar ôl 20 munud o’r gêm. Arhosodd y sgôr yn gyfartal wedyn tan y funud olaf, pryd y gwnaeth Asante ergydio croesiad gan Liam Mandeville i mewn i’r rhwyd a sicrhau’r fuddugoliaeth i’w dîm.