Mae Casnewydd wedi disgyn i drydydd safle Cynghrair Dau ar ôl colli 3-2 yn Oldham.

Rhoddodd peniad gan Jake Scrimshaw yr ymwelwyr ar y blaen, ond daeth David Keillor-Dunn â’r sgôr yn gyfartal cyn i Gasnewydd golli Joss Labadie pan gafodd ei anfon o’r cael am ymddygiad treisgar.

Rhoddodd Bobby Grant Oldham ar y blaen hanner awr wedi cychwyn y gêm, ond fe wnaeth ergyd hir gan Luke Gambin godi Casnewydd yn ôl yn gyfartal bum munud cyn hanner amser.

Sicrhaodd Oldham y tri phwynt ar ôl 74 munud pan giciodd Mickey Demetriou y bêl i’w rwyd ei hunan, a chafodd y fuddugoliaeth ei chadarnhau wrth i Dylan Bahamboula fethu ergyd o’r smotyn wyth munud cyn y diwedd.