Mae Abertawe wedi camu’n rhwydd i bumed rownd Cwpan FA ar ôl buddugoliaeth ysgubol 5-1 yn erbyn Nottingham Forest.

Yn dilyn dwy gôl yr un gan Matt Grimes a Liam Cullen, yn ogystal â gôl gyntaf Oli Cooper i’r prif dîm, mae Abertawe drwodd i 16 olaf y gystadleuaeth am y trydydd tro mewn pedwar tymor.

Rhoddodd Anthony Knockaert obaith i Forest wrth dorri mantais Abertawe i 2-1 ar gychwyn yr ail hanner, ond dangosodd Abertawe y safon sydd wedi eu codi nhw i ail safle’r Bencampwriaeth.

O fewn pum munud roedden nhw’n ddwy gôl ar y blaen eto gyda chic o’r smotyn, ac erbyn y 67fed munud roedd y sgôr yn 4-1 ac allan o gyrraedd Forest. I goroni’r fuddugoliaeth, cafwyd gôl gan Oli Cooper wrth i’r gêm ddirwyn i ben.

Dyma’r degfed gêm yn olynol i Abertawe ei hennill yn Stadiwm Liberty.