Mae ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau’r Senedd wedi dod i’r casgliad bod Neil McEvoy, yr Aelod o’r Senedd, wedi torri rheolau ar ddefnyddio adnoddau’r Senedd ar gyfer ymgyrchu etholiadol ar 22 achlysur.

Dydy aelodau etholedig ddim i fod i ddefnyddio adnoddau, arian, adeiladau na staff Senedd Cymru ar gyfer ymgyrchu etholiadol.

Mae Neil McEvoy yn gwadu torri’r rheolau ac yn dweud bod yr adroddiad yn “anghywir iawn”.

Argraffu bron i 9,000 o ddeunydd ymgyrchu

Mae ymchwiliad comisiynydd safonau Cymru yn honni bod 22 achos lle cafodd y rheolau yma eu torri gan Neil Mcevoy dros gyfnod etholiadau 2016 a 2017, tra bod Neil McEvoy yn aelod o Blaid Cymru ac yn Gynghorydd yng Nghaerdydd.

Mae’n cynnwys argraffu bron i 8,920 o ddeunyddiau ymgyrchu gan ddefnyddio offer oedd wedi’i rentu gan ddefnyddio arian y Senedd.

Honnir hefyd ei fod e wedi cynnal cyfarfodydd i drafod ymgyrchoedd yn ei swyddfa yng Nghaerdydd a’r Senedd a chyflogi aelod o staff i gyfieithu deunydd ymgyrchu i’r Gymraeg.

Mae’r adroddiad yn benllanw ymchwiliad a gafodd ei sefydlu gan y cyn-Gomisiynydd Safonau, Syr Roderick Evans – mi gamodd o’r neilltu wedi i Neil McEvoy ei recordio’n gwneud sylwadau bychanol.

Cafodd Neil McEvoy ei wahardd o Blaid Cymru yn 2018.

Daeth yr adroddiad i’r amlwg yn dilyn ymddygiad Neil McEvoy tuag at Mick Antoniw, Aelod o’r Senedd ym Mhontypridd, fis Rhagfyr diwethaf.

Yn dilyn hyn cafodd ei wahardd o weithgarwch y Siambr heb dâl am 21 diwrnod.

‘Dydw i heb fy nghanfod yn euog’

Er nad yw’r adroddiad wedi ei gyhoeddi eto, mae BBC Cymru wedi rhyddhau’r canfyddiadau.

“Mae’r ffaith fod yr adroddiad wedi ei ddatgelu gan y BBC yn dweud y cwbl sydd angen ei wybod am y bobol sydd wedi datgelu’r cynnwys,” meddai Neil McEvoy mewn fideo yn gwadu’r honiadau.

“Mae’r adroddiad i fod yn gyfrinachol a dydy’r broses heb ei gwblhau eto, felly dydw i heb fy nghanfod yn euog, ond mae’r BBC wedi rhyddhau’r honiadau fel ffaith.

“Mae’r adroddiad a gafodd ei ryddhau gan y BBC yn anghywir iawn.”

Yn y fideo mae’r Aelod o’r Senedd, sy’n cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru, yn cyfeirio at enghreifftiau eraill ble mae adnoddau’r Senedd wedi eu defnyddio gan aelodau o’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru ond na chawson nhw eu cosbi.

“Ni wnaeth y cyfryngau ddarlledu hyn ac ni chymerwyd unrhyw gamau pellach,” ychwanegodd.

“Does ganddyn nhw ddim diddordeb yn y broses briodol na fy mod i’n cael proses deg. Mae etholiad ar y gorwel ac maen nhw eisiau taro fi nawr, drwy’r cyfryngau.

“Dyma sut mae gwleidyddiaeth yn gweithio yng Nghymru nawr. Pobol gysgodol, ddienw, yn gwneud cwynion ac yna’n rhyddhau’r wybodaeth i’r cyfryngau i geisio difetha enw da pobol.”

Fe fydd yr adroddiad nawr yn mynd gerbron pwyllgor safonau’r Senedd, a fydd yn penderfynu a fydd unrhyw gosb yn briodol.

Pwyllgor yn argymell gwahardd Neil McEvoy o weithgarwch y Senedd dros dro

Adroddiad yn dyfarnu ar gwynion Mick Antoniw – McEvoy yn taro’n ôl drwy rhyddhau fideo CCTV