Mae Mark Strong, Cynghorydd Sir a Thref Plaid Cymru dros ward Gogledd Aberystwyth, wedi beirniadu Neil Hamilton, Aelod o’r Senedd UKIP dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, am ei “ddiystyru”, ei “amharchu” ac am “brocio hwyl” ar ei deulu.

Daw hyn ar ôl i Mark Strong anfon e-bost at Neil Hamilton yn cwyno am gostau a biwrocratiaeth ychwanegol wrth anfon a mewnforio cynnyrch o’r cyfandir yn dilyn Brexit.

“Ers tro hir, dw i wedi bod yn delio efo cwmnïau ar y cyfandir, yn yr Almaen, Ffindir ac Awstria,” meddai yn ei e-bost.

“Erbyn hyn mae’n rhaid iddynt wneud datganiad tollau. Mae hyn yn golygu iddyn nhw greu 5 darn o bapur ychwanegol a hefyd cofrestru gyda’r HMRC ar gyfer eitemau bach.

“Mae hyn yn fiwrocratiaeth wirion a chostus ar gais y DU.

“Mae’n debyg na fydd y cwmnïau hyn yn fodlon cario’r baich ariannol hwn am lawer hirach.

“Beth ydych am wneud am hyn?”

“Llai costus na chynhyrchu deunydd ysgrifenedig dwy ieithog”

Wrth ymateb i e-bost Mark Strong, dywedodd Neil Hamilton ei fod yn “ymddiheuro eich bod yn gorfod wynebu’r fiwrocratiaeth ychwanegol hon, sef pump darn o bapur”.

“Ond rwy’n amau fod hyn yn llawer iawn llai costus na’r holl ddeunydd ysgrifenedig dwyieithog y mae cyrff Cymreig yn cynhyrchu er mwyn bodloni’r Ddeddf Iaith Gymraeg.”

Aeth yn ei flaen wedyn i ddweud bod “gadael yr Undeb Ewropeaidd yn amlwg yn mynd i achosi rhywfaint o wahaniaethau ac anghyfleustra ond byddwn yn gobeithio na fydd hyn yn parhau y tu hwnt i’r tymor byr.”

“Sioc”

Mae Mark Strong yn dweud iddo gael “sioc” yn dilyn ymateb Neil Hamilton.

“Cefais sioc, mi wnes i anfon e-bost ato gan ei fod wedi gwneud sylwadau am Ewrop o’r blaen, yn dweud y byddai pethau’n iawn ac na fyddai anawsterau o’r math yma,” meddai.

“Gofynnais gwestiwn hollol ddilys a chefais fy niystyru a fy amharchu gan Mr Hamilton.

“Mae costau tollau ychwanegol yn effeithio nid yn unig fi, ond busnesau yn Aberystwyth… mae rhai yn mewnforio bwyd o Ffrainc a’r Eidal, er enghraifft.”

Ffrae iaith

Ond y ffaith fod Neil Hamilton wedi codi’r iaith Gymraeg yn ei ymateb oedd wedi corddi Mark Strong fwyaf.

“Wnes i ddim sôn am yr iaith yn fy e-bost, yr oll wnes i oedd defnyddio’r iaith mae fy nheulu yn ei siarad.

“Mae Mr Hamilton eisiau troi’r cloc yn ôl ar yr holl frwydrau sydd wedi digwydd i ni allu defnyddio iaith ein hunain yng ngwlad ein hunain.

“Dw i’n rhyfeddu fod y fath beth yn digwydd yn 2020, mae’r rhain yn frwydrau o’r 60au!

“Dylai’r math yma o nonsens wedi diflannu erbyn hyn.

“Mae hyn wedi gadael fi heb eiriau a dweud y gwir… cael yr ymateb yma gan ddyn dw i a threthdalwyr eraill Cymru yn talu ei gyflog, mae o wedi fy mrifo i.

“Dw i’n gweld fy hun fel person sydd ddim yn fewnblyg, sy’n edrych tu hwnt i Gymru, ac yn trin pawb yn gyfartal.

“Dwi’n disgwyl yr un peth fy hunan, ond mae’n amlwg nad yw hyn yn wir yn 2020.”