Fe fydd gweinidogion Cymru a’r Alban yn cydweithio er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn dal i fanteisio ar yr hyn yr oedd y cynllun cyfnewid Erasmus yn ei gynnig iddyn nhw.

Yn sgil Brexit, fe fydd cynllun newydd yn cael ei gyflwyno yn ei le gan Lywodraeth Prydain, ond mae’r llywodraethau datganoledig yn dadlau nad yw’n ddigonol.

Bydd Cynllun Turing Llywodraeth Prydain yn derbyn tua £100m yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ond yn ôl llywodraethau Cymru a’r Alban, pitw iawn yw’r swm hwn o’i gymharu â’r cyllid Erasmus, tra bydd llai o gefnogaeth hefyd i golegau ac ysgolion.

Datganiad

Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, a Richard Lochhead, Gweinidog Addysg Uwch yr Alban, wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd.

“Mae Erasmus+ yn golygu llawer mwy na dim ond cyfnewid prifysgolion,” meddai’r datganiad.

“Mewn gwironedd, at ei gilydd, mae mwy o gyllid Erasmus+ wedi’i neilltuo ar gyfer addysg bellach, ysgolion, addysg oedolion a grwpiau ieuenctid nag ar gyfer prifysgolion.

“Mae wedi’i brofi fod cymryd rhan mewn taith gyfnewid Erasmus+ yn codi hunanhyder pobol, eu hymwybyddiaeth ddiwylliannol, eu gallu i ddysgu ail iaith a’u cyflogadwyedd.

“Ymhellach, mae’r buddiannau hyn yn fwy amlwg ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan sy’n dod o ardaloedd mwyaf difreintiedig y Deyrnas Unedig a’r sawl sydd bellaf oddi wrth addysg draddodiadol.

“Mae cynnig amgen Llywodraeth y Deyrnas Unedig, o gymharu [ag Erasmus], yn ddynwarediad pitw o’r peth go iawn.”

Wfftio datganoli

Maen nhw hefyd yn beirniadu’r modd y mae’r cynllun yn anwybyddu pwerau datganoledig Cymru a’r Alban ym maes addysg.

“Mae hyd yn oed yn fwy annerbyniol wedyn fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig am geisio gorfodi’r cynllun annigonol hwn ar Gymru a’r Alban drwy ddeddfwriaeth newydd sy’n gorchfygu natur ddatganoledig addysg,” meddai’r datganiad.

“Rydym wedi bod yn glir nad yw’r hyn maen nhw’n ei gynnig yn ddigon da ac y dylid, yn hytrach, roi unrhyw gyllid ar gyfer Erasmus+ yn ei le yn y lle cyntaf i lywodraethau Cymru a’r Alban er mwyn i ni ddefnyddio’n hawl i gyflwyno gwasanaethau addysg o fewn ein gwledydd ein hunain.”

Daw hyn ar ôl i ychydig yn llai na 150 o aelodau seneddol Ewropeaidd ysgrifennu at Gomisiwn Ewrop yn gofyn iddyn nhw ailystyried rhan Cymru a’r Alban yng nghynllun Erasmus er gwaethaf Brexit.