Mae Andrew RT Davies, yn ei gyfarfod llawn cyntaf fel arweinydd newydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, wedi mynnu atebion gan Lywodraeth Cymru am fethu targedau brechu.
Daw hyn wedi i Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, ddweud ddoe (dydd Llun, Ionawr 25) nad oedd yr holl ddata wedi cyrraedd o’r canolfannau brechu a’r meddygfeydd ledled Cymru i ddangos a oedd y Llywodraeth wedi cyrraedd y targed o frechu 70% o bobol dros 80 oed erbyn y penwythnos diwethaf.
Mae’r ffigurau diweddaraf heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 26) yn dangos bod 52.8% o bobol dros 80 bellach wedi cael y dos cyntaf o’r brechlyn.
‘Heb gadw at eich addewid’
“Yr wythnos ddiwethaf, roedd ffocws mawr ar y targed o frechu 70% o bobol dros 80 oed,” meddai Andrew RT Davies.
“Mae’n hollbwysig ein bod ni’n gwybod a ydych chi wedi cyrraedd y targed yma, dywedoch chi’r wythnos ddiwethaf y byddai gennych wybodaeth o ddydd i ddydd er mwyn rhoi diweddariad.
“Dydych chi heb gadw at eich addewid i frechu 70% o bobol dros 80 oed.”
Wrth ymateb i gwestiwn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, cyfeiriodd y prif weinidog Mark Drakeford at y tywydd garw effeithiodd ar y rhaglen frechu.
Cafodd pedair canolfan frechu eu cau yn ardal Cwm Taf dros y penwythnos a chafodd un ganolfan frechu dorfol yn ardal bwrdd iechyd Bae Abertawe ei chau am resymau diogelwch.
“Mae’r data yn dal i ddod i law, ond mae’r ffigurau yn dangos bod 72% o bobol sydd yn byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal wedi cael eu brechu,” meddai Mark Drakeford.
“Ni fyddwn yn cyrraedd y targed i frechu 70% o bobol dros 80 oherwydd y tarfu ar frechu ar ddydd Sul a bore dydd Llun.
“Dydw i ddim yn mynd i roi pwysau ar bobol sydd dros 80 i fynd i gael eu brechu pan maen nhw’n penderfynu nad yw’n saff iddyn nhw wneud hynny.
“Mi fydd yr holl bobol hyn yn cael cynnig cyfle arall i gael eu brechu erbyn dydd Mercher, rydym ar y trywydd iawn i gynnig brechlyn i bawb yn y pedwar grŵp uchaf erbyn canol mis Chwefror.”
Targedau brechu Llywodraeth Cymru
- Erbyn canol mis Chwefror:
- Preswylwyr a staff cartrefi gofal
- Staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
- Pobol dros 70 oed
- Pobol sy’n agored i niwed clinigol
- Gwanwyn: Pawb dros 50 oed a phawb sydd mewn perygl oherwydd bod ganddynt gyflwr iechyd sylfaenol.
- Hydref: Pob oedolyn cymwys arall yng Nghymru.
“Rydym wedi brechu 8.7% o’r boblogaeth mewn saith wythnos yn unig” medd y Gweinidog Iechyd