Er bod y cyhoeddiad heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 26) fod Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn cael ei ohirio eto, tan Awst 2022 yn destun pryder i nifer o fusnesau sy’n wynebu colledion ariannol, mae’n rhyddhad i sawl arweinydd côr a thrigolion lleol yr ardal.
Gwnaed y penderfyniad gan Fwrdd Rheoli’r Eisteddfod dros y Sul yn dilyn trafodaethau.
“Ond am nawr, fe wnawn ni barhau i aros gydag urddas.”
“Fydd o mor arbennig”
Wrth drafod ei hymateb i’r cyhoeddiad heddiw, dywedodd Manon Mai, arweinydd Côr Merched Soar yn ardal Tregaron, ei bod hi “wedi disgwyl a gobeithio” am y cyhoeddiad.
Dywedodd wrth golwg360 ei bod hi’n “poeni y bysa Ceredigion yn cael Eisteddfod… sydd ddim fel Eisteddfod”.
“Mae’n rhaid rhoi bob dim yn ei gyd-destun dyddiau ‘ma a’r flaenoriaeth ydi gwneud yn siŵr – ryw ddiwrnod – y byddwn ni gyd yn cael bod hefo’n gilydd eto,” meddai.
“Fydd o mor arbennig – ein Heisteddfod ni fydd y cyntaf ar ôl Covid a fydd o’r Eisteddfod mae pawb yn ei chofio am byth!
“Fydd hynny’n gwneud o hyd yn oed fwy sbesial!”
Ar lefel ymarferol, dywed y byddai wedi bod anodd iawn cynnal ymarferion a’r paratoadau o dan y cyfyngiadau presennol hefyd.
“Eithaf anodd cael repertoire at ei gilydd”
Mae Gregory Vearey-Roberts, arweinydd Côr Ger y Lli yn Aberystwyth, yn cytuno â’r penderfyniad i ohirio.
“Doedd dim dewis,” meddai.
“Sa’i wedi gallu ymarfer a ni wedi trial gwneud e dros Zoom ond dydi o ddim ‘r’un peth. Mae rhai aelodau’n shieldio, yn bryderus ac ati.
“Byddai wedi bod yn eithaf anodd cael repertoire at ei gilydd.”
“.. Ond galla i ddim ond dychmygu faint o gorau fydd yn cystadlu yn 2022!”
“Bwysig ein bod ni’n camu i helpu”
“Mae’r pwyllgor, y gymuned a Cheredigion yn haeddu Eisteddfod i’w chofio a dyma’r ffordd gorau i wneud hynny,” meddai wedyn.
Er hynny, dywed fod goblygiadau gohirio’r ŵyl ac effaith hynny ar yr Eisteddfod fel mudiad yn dod â thristwch mawr iddo a bod cyfrifoldeb arnom i’w cefnogi.
“Rwyf wedi bod mor ffodus drwy gydol fy mywyd,” meddai.
“Yr Eisteddfod yw popeth i mi ac mae pobol rwy’n nabod a ffrindiau da yn cael eu heffeithio – mae’n drist iawn.
“Mae o wedi bod yn rhan annatod o’n bywyd ni felly mae o’n bwysig ein bod ni’n camu i helpu…”
“Mae’n hanfodol i ni gefnogi a chynnig help llaw.”