Mae golwg360 wedi clywed gan fusnesau ledled Cymru oedd i fod â stondinau ar y Maes y bydd gohirio’r Eisteddfod Genedlaethol eto eleni yn “glec”.

Heddiw (dydd Mawrth 25 Ionawr), mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi bod Prifwyl Ceredigion yn cael ei gohirio eto, tan Awst 2022.

Gwnaed y penderfyniad gan Fwrdd Rheoli’r Eisteddfod dros y Sul yn dilyn trafodaethau.

Y bwriad bellach yw cynnal y Brifwyl yn Nhregaron ym mis Awst 2022, gan symud Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd i Awst 2023, a chynnal yr Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf yn 2024.

“Mae ein gwerthiant ni yn ystod yr Eisteddfod rhwng £15,000 a £20,000 o bunnoedd”

Mae Angharad Gwyn, perchennog cwmni anrhegion Adra, wedi dweud wrth golwg360 bod “ein gwerthiant ni yn ystod yr Eisteddfod rhwng £15,000 a £20,000 o bunnoedd”.

“Ond dydy’r newyddion ddim yn dychryn ni gymaint â llynedd, oherwydd doedden ni ddim yn gwybod faint fyddai’r golled,” meddai.

“Aeth gwerthiant ar-lein drwy’r to y llynedd felly llwyddom i wneud fyny a’r golled mewn tua mis i chwe wythnos.

“Felly rydan ni’n fwy hyderus y tro yma… dio’m yn edrych fel colled wnawn ni ddim gwneud fyny amdano.

“Ond pwy a ŵyr beth sy’n digwydd o fis i fis, yn sicr rydan ni’n edrych ymlaen at weld ein cwsmeriaid eto’r flwyddyn nesaf.

“Ac rydan ni’n gobeithio’n fawr y bydd yr Eisteddfod yn goroesi fel cwmni.”

Y Lolfa’n gorfod “ailwampio ein rhaglen gyhoeddi”

Dywed Garmon Gruffudd, Rheolwr Gyfarwyddwr Y Lolfa, wrth golwg360 fod yn rhaid iddyn nhw “ailwampio ein rhaglen gyhoeddi” yn ogystal â delio ag effaith economaidd gohirio’r Eisteddfod Genedlaethol.

“Mae’r Eisteddfod yn ffocws pwysig iawn i ni o ran cyhoeddi… rydan ni’n cyhoeddi nifer o lyfrau ar gyfer  yr Eisteddfod ac yn gwerthu cryn dipyn yn ystod wythnos yr Eisteddfod,” meddai.

“Bydd yn rhaid i ni ailwampio ein rhaglen gyhoeddi, a heb os, bydd hynny yn golledus ac yn glec i ni.

“Efallai bydd yn rhaid gohirio cyhoeddi llyfrau tan flwyddyn nesaf, oherwydd roedden ni wedi bwriadu cyhoeddi rhai llyfrau yn benodol ar gyfer Eisteddfod Tregaron.

“Ond rydw i’n deall pam fod yr Eisteddfod wedi dod i’r penderfyniad hwn, doedd dim dewis ganddyn nhw.

“Iechyd y cyhoedd yw’r peth pwysicaf.”

“Mae’n well ein bod ni’n fyw nag ein bod ni’n gwneud arian”

Wrth siarad gyda golwg360, dywed Owain Young, perchennog cwmni dillad Shwl Di Mwl, fod “rhan helaeth o’n hincwm ni’n dod o’r Eisteddfod”.

Mae’r cwmni wedi bod â stondin ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd ers 1992.

“Roeddwn i’n disgwyl iddo gael ei ohirio beth bynnag, ond yn sicr bydd yn glec,” meddai.

“Rydan ni’n dibynnu ar wythnos yr Eisteddfod ar gyfer gwerthiant. Mae rhan helaeth o’n hincwm ni’n dod o’r Eisteddfod.

“Mae’n rhaid i ni addasu fel cwmni… mae gwerthiant ar-lein wedi bod yn agoriad llygad ac yn cadw ni fynd.

“Ond dw i’n cytuno efo’r penderfyniad i beidio cynnal yr Eisteddfod.

“Mae’n rhaid i ni gymryd y glec am flwyddyn arall, gan obeithio mai dim ond blwyddyn arall fydd hi.

“Mae’n well ein bod ni’n fyw nag ein bod ni’n gwneud arian.”

Gohirio Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion tan 2022

A bydd rhaid lleihau nifer y staff i “hanner ei faint” meddai’r Prif Weithredwr.