Mae Giuseppe Conte, prif weinidog yr Eidal, wedi ymddiswyddo yn dilyn beirniadaeth ynghylch y ffordd mae e a’i lywodraeth wedi mynd i’r afael ag ymlediad y coronafeirws.

Roedd un o’i gynghreiriaid wedi tynnu eu cefnogaeth iddo, sy’n golygu y byd yn rhaid iddo aros am ganlyniadau ymgynghoriad i glywed a fydd modd iddo fe ffurfio llywodraeth.

Mae’r Arlywydd Sergio Mattarella wedi gofyn iddo aros am y tro, ac fe fydd yn trafod y sefyllfa â’r arweinwyr gwleidyddol eraill yfory (dydd Mercher, Ionawr 27).

Llywodraeth newydd

Gobaith Giuseppe Conte yw y bydd modd iddo fe ffurfio llywodraeth glymblaid newydd a fydd yn gallu arwain y wlad drwy’r pandemig a thrafferthion economaidd sy’n gysylltiedig â’r feirws.

Mae’r Eidal wedi derbyn 209bn Ewro gan yr Undeb Ewropeaidd fel rhan o’u hadferiad Covid-19.

Ond yn gynharach y mis hwn, fe wnaeth Matteo Renzi, cyn-brif weinidog yr Eidal, dynnu cefnogaeth ei blaid yn ôl.

Serch hynny, fe enillodd y prif weinidog bleidlais hyder yr wythnos ddiwethaf er nad oedd ganddo fe fwyafrif o’i blaid a’i unig ddewis wedyn oedd ymddiswyddo a brwydro am y swydd o’r newydd.

Bydd modd i’r arlywydd ofyn iddo fe ffurfio llywodraeth glymblaid newydd, neu fe allai ffurfio’i lywodraeth ei hun neu ddiddymu’r senedd yn gyfangwbl a chynnal etholiad ddwy flynedd yn gynt na’r disgwyl.

Cyfnod Giuseppe Conte wrth y llyw

Daeth Giuseppe Conte i rym am y tro cyntaf yn 2018 fel rhan o lywodraeth glymblaid gyda phlaid Matteo Salvini a barodd 15 mis.

Parodd ei ail lywodraeth 16 mis.

Mae rhai arweinwyr yn dweud nad yw Giuseppe Conte yn addas i arwain y wlad bellach ond maen nhw hefyd yn awyddus i osgoi etholiad ar hyn o bryd.