Mae ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos i fwy o farwolaethau Covid-19 gael eu cofnodi yng Nghymru yn ystod yr wythnos a ddaeth i ben ar Ionawr 15 nag yn ystod unrhyw wythnos arall ers dechrau’r pandemig.

Cafodd 467 o farwolaethau eu cofnodi yng Nghymru – 88 mewn cartrefi gofal a 379 mewn llefydd eraill.

Roedd cyfanswm nifer y marwolaethau yn ystod yr wythnos hefyd 314 yn uwch na’r cyfartaledd pum mlynedd yng Nghymru.

454 oedd y nifer uchaf o farwolaethau mewn wythnos cyn hyn, a hynny yn ystod wythnos gynta’r flwyddyn.

Golyga hyn fod cyfanswm y marwolaethau wythnosol yng Nghymru wedi bod yn uwch na’r cyfanswm wythnosol uchaf yn ystod y don gyntaf ddwy wythnos yn olynol.

Pedwar o bob deg wedi marw o Covid yng Nghymru a Lloegr

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, coronafeirws oedd hefyd yn gyfrifol am bedair o bob deg marwolaeth a gafodd eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr yn ystod yr wythnos a ddaeth i ben ar Ionawr 15.

Roedd 7,245 o farwolaethau lle’r oedd sôn am “coronafeirws newydd” ar y dystysgrif marwolaeth yng Nghymru a Lloegr bryd hynny.

Mae hyn yn gynnydd o 19.6% o gymharu â’r wythnos flaenorol, pan oedd 6,057 o farwolaethau.

Parhaodd nifer y marwolaethau a oedd yn ymwneud â Covid-19 mewn cartrefi gofal i gynyddu, gyda 1,271 o farwolaethau mewn cartrefi gofal wedi’u cofrestru yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 15 Ionawr – cynnydd o 32.3% o 960 yr wythnos flaenorol.

Mae Mike Padgham, Cadeirydd Grŵp Gofal Annibynnol Efrog, wedi rhybuddio pobol i barhau i fod yn ofalus.

“Oes, mae gennym frechlynnau erbyn hyn, ac mae’r Llywodraeth i’w llongyfarch ar ba mor gyflym y mae’n amddiffyn y rhai sy’n agored i niwed,” meddai.

“Ond nid yw Covid-19 wedi cael ei guro eto ac mae’n rhaid i ni barhau’n ofalus a dilyn yr holl ganllawiau er mwyn cadw pawb mewn lleoliadau gofal – cartrefi gofal a nyrsio a’r rhai sy’n derbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain – mor ddiogel ag y gallwn, ochr yn ochr â’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw.”