Mae Nadhim Zahawi, gweinidog brechlynnau San Steffan, yn hyderus y bydd gwledydd Prydain yn derbyn cyflenwadau o frechlynnau coronafeirws Pfizer/BioNTech er gwaethaf bygythiad gan yr Undeb Ewropeaidd y byddan nhw’n atal allforion.
Mae’n dweud y bydd pob oedolyn yn cael cynnig brechlyn erbyn yr hydref, a 15m o’r bobol fwyaf bregus erbyn Chwefror 15, er gwaetha’r trafferthion posib.
“Dw i’n hyderus y bydd y brechyn Pfizer yn cael ei ddosbarthu,” meddai wrth Sky News.
“Mae Pfizer wedi sicrhau erioed eu bod nhw’n dosbarthu i ni, a byddan nhw’n parhau i wneud hynny.
“Maen nhw wedi gwneud cyhoeddiad pwysig iawn ar gyflenwadau teg i’r byd cyfan, gan gynnwys yr Undeb Ewropeaidd, a dw i’n sicr y byddan nhw’n dosbarthu i’r Undeb Ewropeaidd, y Deyrnas Unedig a gweddill y byd.
“Mae gyda ni 367m o frechlynnau rydyn ni wedi eu harchebu gan saith cyflenwr gwahanol, felly dw i’n hyderus y byddwn ni’n bwrw ein targed ac yn parhau i frechu pob oedolyn erbyn yr hydref.”
Y bygythiad
Daw’r bygythiad gan yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn beirniadaeth nad yw’r brechlynnau’n cael eu dosbarthu’n ddigon cyflym.
Mae Stella Kyriakides, comisiynydd iechyd yr Undeb Ewropeaidd, yn cyhuddo AstraZeneca, sy’n cydweithio â Phrifysgol Rhydychen, o fethu â chynnig eglurhad am fethu â dosbarthu dosau i’r bloc Ewropeaidd.
Daw’r rhybudd y byddai’r Undeb Ewropeaidd yn cymryd camau “i warchod ei thrigolion a’u hawliau”.
Caiff brechlynnau Pfizer eu cynhyrchu ar y cyfandir, tra bod trwch y brechlynnau AstraZeneca yn cael eu cynhyrchu yng ngwledydd Prydain.
Yn ôl Nadhim Zahawi, mae cyflenwadau’n “dynn” ac mae’n gwrthod cadarnhau ei fod e wedi cael sicrwydd ynghylch y dosau Pfizer fydd yn dod i wledydd Prydain.
Mae hefyd yn gwadu honiadau gan yr Almaen fod brechlyn AstraZeneca ond yn 8% effeithiol ymhlith pobol dros 65 oed, gan ddweud mai “nonsens” yw hynny, ac mae AstraZeneca hefyd yn dweud bod yr honiadau’n “gwbl anghywir”.