Mae Cyngor Sir Ceredigion yn treialu cynllun peilot newydd i ddarparu cyfleoedd i bobol leol brynu eu cartref cyntaf trwy brynu darn o dir am bris gostyngol.
Fel rhan o Gynllun Eiddo Fforddiadwy gyda Gostyngiad wrth Werthu, mae darn o dir yng Nghiliau Aeron ger Aberaeron ar gael am bris gostyngol o £25,000.
Mae lle i ddau dŷ ar y safle ac mae’r Cyngor yn awyddus i glywed gan bobol leol a hoffai gael eu troed ar yr ysgol eiddo ac adeiladu eu cartref eu hunain.
Bydd angen i’r darpar brynwyr brofi eu bod wedi byw yng Ngheredigion am gyfnod parhaus o bum mlynedd a phrofi nad ydyn nhw’n berchen ar eiddo preswyl arall.
Bydd rhaid iddyn nhw brofi hefyd eu bod yn gallu benthyg dim mwy na’r swm sy’n ofynnol i brynu’r eiddo am ei bris gostyngol ynghyd â 10% o’r pris hwnnw.
‘Cyfle cyffrous’
“Mae hwn yn gyfle cyffrous i bobol leol fynegi eu diddordeb yn y ddwy lain hunanadeiladu ar wahân yng Nghiliau Aeron,” meddai’r Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio.
“Mae’r cynllun yn cynnig cyfle i bobol leol gael eu troed ar yr ysgol eiddo drwy adeiladu eu cartref eu hunain.
“Nid yn aml y mae cyfleoedd fel y rhain yn codi, ac rwy’n mawr obeithio y gellir defnyddio’r darn hwn o dir sy’n eiddo i’r Cyngor i’w lawn botensial a sicrhau dau gartref cychwynnol i drigolion Ceredigion.”
Yn ddibynnol ar lwyddiant y cynllun, mae Cyngor Sir Ceredigion yn awyddus i gynnig gostyngiadau i brynwyr cyntaf ar ddarnau eraill o dir sydd yn eiddo i’r Cyngor yn y dyfodol.
Y dyddiad cau yw Chwefror 26 ac mae’r meini prawf ar gael yn llawn ar wefan y Cyngor.