Mae Cynghorydd Sir yng Ngheredigion wedi trafod cynnig sy’n cael ei drafod gan Gyngor Ceredigion i alw a’r Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael a chyfraddau ail gartrefi.
Yng nghyfarfod llawn y Cyngor ar 21ain o Ionawr, gofynnodd arweinydd y Cyngor, Ellen ap Gwynn, i bwyllgor craffu drafod cynnig ar y mater yn ei gyfarfod nesaf ac i adrodd yn ôl cyn cyfarfod nesaf y cabinet ym mis Chwefror.
Daw hynny, wedi i ymchwil ddangos fod 5.91% o dai Ceredigion yn eiddo o’r fath – un o ganrannau sirol uchaf yng Nghymru.
I ategu, mae’r canran hwn yn cynyddu i gymaint â 26% yn ward Cei Newydd.
Mae’n sefyllfa annheg, yn ôl y Cynghorydd dros Ogledd Aberystwyth, Mark Strong, a luniodd y cynnig.
Mae yntau’n credu y dylid ymdrin â’r sefyllfa ar sail ffeithiau ac mae’n annog Llywodraeth Cymru i weithredu.
Y cynnig
Mae’r cynnig sy’n cae ei drafod yn galw am y canlynol gan Lywodraeth Cymru:
- Newid y ddeddfwriaeth gynllunio i gynnwys hawl i reoli’r nifer o dai sy’n cael eu tynnu o’u stoc tai lleol at ddefnydd ymwelwyr.
- Grym i gynghorau fynnu bod yn rhaid cael caniatâd cynllunio i newid tŷ annedd yn dŷ gwyliau.
- Galluogi cynghorau i gyflwyno trothwy o gyfanswm o dai gwyliau fesul ward.
- Rhwystro perchnogion rhag newid ail gartrefi yn fusnesau er mwyn osgoi talu treth cyngor.
“Dydi hyn ddim yn deg”
Wrth drafod ei resymeg dros gyflwyno’r cynnig, dywedodd y Cynghorydd Mark Strong:
“Os yw pawb yn gallu cael cartref sydd angen cael cartref – wedyn does gen i ddim problem hefo pobol yn cael tai gwyliau.
“Ond pan mae ‘na sefyllfa ble mae pobl sydd yn ennill bywoliaeth yn lleol ac yn gweithio’n galed a methu fforddio i brynu tŷ…
“Dydi hynny ddim yn deg – jyst i adael i farchnad i reoli popeth,” meddai.
“Mae ’na broblem elfennol pan rydych chi’n cael cenedl sy’n cael ei thrin fel hyn ac yn cael ei hanfanteisio yn ei gwlad ei hunain – a dyna beth sy’n digwydd.”
“Gwagle o fewn y gymuned”
Dywedodd bod y sefyllfa, ble mae mwy nag 10% o’r tai yn y Sir yn berchen i bobl sydd ddim ond yn treulio cyfnodau penodol o amser ynddyn nhw, yn creu goblygiadau niweidiol i weddill y gymdeithas leol:
“Mae siopau, tafarndai, ysgolion mewn sefyllfa ble mae ’na wagle o fewn y gymuned,” meddai, “mae eu cwsmeriaid nhw wedi diflannu.
Honnodd mai un o resymau Llywodraeth Cymru dros leihau cyllid Ceredigion eleni, oedd oherwydd y cwymp y niferoedd o bobl sy’n byw yn y Sir.
“Y mwyaf o bobl sy’n colli eu swyddi ac sydd methu byw yn y Sir… y mwy o broblem mae hyn yn mynd i fod,” meddai, “ble mae hyn yn mynd i stopio?”
“Bwysig trin hyn gyda ffeithiau”
Mae’r Cynghorydd yn grediniol mai ar sail ffeithiau, ystadegau ac ymchwil dylid fynd i’r afael a’r broblem:
“Yn hytrach nag mynd lawr y lon o greu stŵr o ran teimladau a gwleidyddiaeth – defnyddio ffeithiau, dyma’r ffordd i ddatrys y broblem.
“Dydw i ddim yn meddwl bod o’n gwneud unrhyw gymwynas i’r gymuned nag i Gymry Cymraeg drïo mynnu bod hyn i gyd wedi’i gynhyrchu gan bobl sydd wedi dod dros y ffin.
“Nid yw hyn yn gywir – edrych ar y wybodaeth, pwy sy’n prynu a pwy sy’n defnyddio’r tai yma – o bell ffordd dydi bob un ohonyn nhw ddim yn bobl o Loegr.
“Mae’n bwysig i egluro hynny a dyna pam dwi’n dweud bod hi’n bwysig trin hyn gyda ffeithiau a dweud wrth Lywodraeth Cymru – ylwch fydd rhaid i chi wneud rhywbeth am hyn.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Rydyn ni’n ymwybodol o’r pryderon am ail gartrefi mewn cymunedau mewn rhai rhannau o Gymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mae’r rhain yn faterion pwysig i Lywodraeth Cymru.
“Mae Gweinidogion wedi sefydlu grŵp trawsbleidiol i drafod yr atebion posibl, sydd wedi’u seilio ar y camau a gymerwyd eisoes yn nhymor y Senedd hon.
“Bydd y Gweinidog Tai yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar ail gartrefi yng Nghymru yr wythnos hon.
“Rydyn ni’n disgwyl i bob awdurdod lleol ystyried defnyddio’r ystod o ddulliau sydd ar gael iddyn nhw mewn modd effeithiol wrth fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar eu cyflenwad tai lleol.
“Er enghraifft, gall awdurdodau lleol gymhwyso premiwm treth gyngor o hyd at 100% ar eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi.
“O’r wyth awdurdod lleol sydd wedi dewis codi premiwm ar ail gartrefi, nid yw’r un ohonyn nhw’n codi mwy na 50%.”