Mae trigolion Tregaron wedi bod rhannu eu barn ynglŷn ag a dylid cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ai pheidio.
Cafodd y digwyddiad ei ohirio flwyddyn ddiwethaf yn sgil y padenmig ac mae disgwyl cyhoeddiad ynglŷn â threfniadau’r Ŵyl eleni cyn diwedd y mis.
Mae disgwyl i’r Eisteddfod Genedlaethol wneud penderfyniad erbyn diwedd mis Ionawr ac mae golwg360 yn deall bod y pwyllgor gwaith yn cynnal cyfarfod brys heno (Ionawr 25).
O ystyried mai dyma’r tro cyntaf i’r Eisteddfod ddod i Dregaron, mae nifer o’r farn yn lleol y dylid gohirio – er mwyn gwneud cyfiawnder a’r ardal a’i thrigolion a chael “yr Eisteddfod orau erioed”.
“Mae hi’n anodd dweud hyn…”
“Mae hi’n anodd dweud hyn achos rwy’n dwli ar yr Eisteddfod ond fi’n credu mai’r peth gorau yw canslo,” meddai Nest Jenkins, sy’n frodor o Dregaron.
“Dim ond achos fod hi mor ansicr ac o ran y sefyllfa frechu – mae’n annhebygol iawn fod y genedl i gyd wedi ei brechu erbyn hynny.
“O ran ymarferion hefyd,” meddai, “byddai’r rheini yn cymryd lle erbyn nawr, felly fi’n siŵr bod Ceredigion i gyd eisiau cael Eisteddfod dda ac i’w gofio – felly efallai… er bod o’n torri fy nghalon i i ddweud, efallai mai canslo byddai orau.
Dywedodd y byddai cynnal yr Ŵyl o dan gyfyngiadau a phan fod pobl yn teimlo’n bryderus yn mynd yn groes i naws gymdeithasol yr Eisteddfod:
“Dyna beth yw Eisteddfod,” meddai, “ma e’n amser i gymdeithasu ac i gymysgu, felly byddai unrhyw beth yn llai nag hynny ddim yn Eisteddfod ‘go iawn’”.
Dywedodd y byddai cynnal yr Ŵyl yn rhithiol yn un ffordd o gynnal y bwrlwm ond ei bod o’r farn ni ddylid hynny ddigwydd “o dan faner Ceredigion”.
“Haeddu cael Eisteddfod ‘go iawn’”
Cytunodd Efan Williams, sy’n byw yn Lledrod ac sy’n gystadleuydd brwd mewn eisteddfodau bach a mawr y wlad:
“Yn bersonol, gan ein bod ni wedi codi’r arian a bwrw’r targedau i gyd yn lleol, rwy’n meddwl bod y fro yn haeddu cael Eisteddfod ‘go iawn’.
“… neu mor agos i Eisteddfod ‘go iawn’ ac sydd yn bosib,” meddai, “ac rwy’n ofni y byddai hynny’n meddwl gohirio eto.
“Dydw i ddim yn credu y byddai’n iawn i ni gael ryw fath o hanner ’steddfod.”
Eglurodd y byddai’n croesawu’r penderfyniad i gynnal Eisteddfod amgen eleni, er cytunodd na ddylid lleoli hynny yng Ngheredigion, “mae hynny’n rhywbeth mwy canolog” meddai.
Ychwanegodd hefyd byddai cynnal yr Eisteddfod hon, tra bod Eisteddfodau eraill Cymru wedi eu gohirio, yn heriol i gystadleuwyr.
“Byddai unrhyw un sy’n cystadlu eisiau cael y cylch o Eisteddfodau’n llawn,” meddai.
“Eisiau cynnal yr Eisteddfod orau erioed”
“Mae’n rhaid i ni fod yn ddoeth o dan yr amgylchiadau,” meddai Cynghorydd Tregaron, Catherine Hughes.
“Mae pawb mor ofnus ynglŷn â’r feirws, mae pawb eisiau teimlo’n sâff ac ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn gwybod os ydyn ni’n saff.
“I mi, rydyn ni eisiau cynnal yr Eisteddfod orau erioed,” meddai, “ac o dan yr amgylchiadau sydd ohoni – fi ffili gweld hynny’n digwydd eleni.”
Wrth holi a yw’r Cynghorydd yn pryderu byddai gohirio’n golygu colli momentwm a’r bwrlwm sydd wedi ei fagu ynghlwm wrth y gwaith paratoi, dywedodd:
“Dydw i ddim yn creu bydd y bwrlwm yn rhedeg mas,” meddai, “ond ein bod ni angen y cyfle i ailddechrau – wedyn mi fydd yn fwy byrlymus nag erioed!”