Dyma’r cyfraddau Covid-19 diweddaraf ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae’r ffigurau, ar gyfer y saith diwrnod hyd at 21 Ionawr, yn seiliedig ar brofion a gynhaliwyd yn labordai GIG Cymru a’r rhai a gynhaliwyd ar drigolion Cymru a brosesir mewn labordai masnachol.

Maent yn dangos bod cyfraddau’n gostwng ym mhob ardal leol ar hyn o bryd, gyda’r gostyngiad mwyaf yn Wrecsam lle mae nifer yr achosion newydd fesul 100,000 o bobl wedi gostwng o 703.2 i 531.8.

Mae Pen-y-bont ar Ogwr (i lawr o 384.9 i 225.8) a Bro Morgannwg (i lawr o 327.1 i 196.9) hefyd wedi cofnodi gostyngiadau mawr.

Mae’r ffigurau yn seiliedig ar ddata a gyhoeddwyd ar ddangosfwrdd gwyliadwriaeth Covid-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 25 Ionawr. Mae data ar gyfer y pedwar diwrnod diweddaraf (Ionawr 22-25) wedi’i eithrio gan ei fod yn anghyflawn ac yn tanddatgan gwir nifer yr achosion.

Y rhestr lawn

O’r chwith i’r dde, mae’r rhestr yn darllen: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 21 Ionawr; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at 21 Ionawr; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 14 Ionawr; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at 14 Ionawr.

Wrecsam 531.8, (723), 703.2, (956)
Sir y Fflint 401.7, (627), 513.8, (802)
Sir Ddinbych 278.0, (266), 356.3, (341)
Casnewydd 271.5, (420), 312.9, (484)
Pen-y-bont ar Ogwr 225.8, (332), 384.9, (566)
Caerdydd 221.0, (811), 289.2, (1061)
Sir Gaerfyrddin 210.8, (398), 304.6, (575)
Castell-nedd Port Talbot 207.2, (297), 264.5, (379)
Bro Morgannwg 196.9, (263), 327.1, (437)
Merthyr Tudful 195.6, (118), 313.3, (189)
Caerffili 195.5, (354), 254.0, (460)
Torfaen 194.8, (183), 275.6, (259)
Rhondda Cynon Taf 188.6, (455), 284.8, (687)
Powys 161.6, (214), 209.2, (277)
Sir Benfro 155.8, (196), 159.8, (201)
Gwynedd 155.7, (194), 217.6, (271)
Blaenau Gwent 148.9, (104), 196.1, (137)
Abertawe 144.5, (357), 210.1, (519)
Ynys Môn 141.3, (99), 145.6, (102)
Conwy 139.9, (164), 183.4, (215)
Sir Fynwy 139.5, (132), 206.2, (195)
Ceredigion 108.7, (79), 162.3, (118)