Mae arweinwyr lleol wedi ysgrifennu llythyr yn galw ar Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, i achub caffi’r Paddle Steamer yn Nhrebiwt.

Fel rhan o gynlluniau i adeiladu 1,000 o gartrefi cyngor erbyn 2022 mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i ddymchwel yr adeilad sydd wedi bod yn ganolbwynt i’r gymuned yno ers dros hanner canrif.

Bwriad y Cyngor yw adeiladu 28 o fflatiau ar y safle.

Er bod y 50 o bobl sydd wedi arwyddo’r llythyr yn croesawu’r angen am fwy o dai cymdeithasol, maen nhw’n gofyn am ddarparu man newydd ar gyfer y caffi.

‘Anwybyddu a diystyru’

“Mae cymunedau Trebiwt wedi blino ar gael eu hanwybyddu a’u diystyru,” meddai llefarydd ar ran Butetown Matters.

“Pan na cheir cydnabyddiaeth o gais fel yr un yma hyd yn oed – lle mae rhan o dreftadaeth y gymuned dan fygythiad ac adnodd cymdeithasol gwerthfawr yn cael ei ddymchwel – mae’n anorfod ein bod ni’n dehongli hynny yng nghyd-destun digwyddiadau ehangach ac effeithiau hiliaeth strwythurol sydd wedi dwyn sylw pobl yn ystod y misoedd diwethaf.

“Gwnaeth Huw Thomas fôr a mynydd o’i Dasglu BAME, ac eto mae gan y Cyngor yma gyfle i ymateb i fater perthnasol iawn, ond yr hyn a glywn yw distawrwydd llethol.

“Rhagrith llwyr yw sefydlu pwyllgor o’r math hwn ar y naill law, gan wedyn anwybyddu’r cymunedau y mae i fod i’w cynrychioli.”

‘Hanes hir a lliwgar’

Mae’r llythyr yn nodi pwysigrwydd y caffi i’r gymuned.

“Gyda hanes hir a lliwgar, mae’r Paddle wedi bod yn fan cyfarfod pwysig yn fwyaf diweddar i gymunedau Somali ac Yemeni Caerdydd.

“Mae’n gweini bwydydd halal a diwylliannol mewn amgylchedd di-alcohol.

“Mae arweinwyr cymunedol a chyfreithwyr yn defnyddio’r caffi’n rheolaidd i gwrdd â phreswylwyr bregus, i’w cefnogi gyda’u hanghenion cymhleth, o gyngor budd-daliadau’r wladwriaeth i ganllawiau mewnfudo a lloches.

“Mae hefyd yn mynd i ddymchwel lle priodol i bobl ifanc gyfarfod â ffrindiau a chwarae pwl, gan eu gorfodi’n anochel i dreulio mwy o’u hamser rhydd ar y strydoedd.

“Heb y caffi, byddai llawer o bobl oedrannus sy’n byw gerllaw yn colli allan ar fwyd poeth rheolaidd a’r cyfle i gymdeithasu a chwrdd â phobl eraill.”

“Yr unig beth sydd angen i’r cyngor i wneud yw mynnu bod y cleient yn cyfarwyddo’r datblygwr i gynnwys y caffi fel rhan o’r datblygiad.”

Ymateb Cyngor Caerdydd

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: “Mae adeilad y Paddle Steamer yn eiddo preifat ac nid yw dyfodol yr adeilad dan reolaeth y Cyngor.

“Cafodd cais ei wneud gan ddatblygwr preifat i ddymchwel y strwythur presennol a datblygu cartrefi fforddiadwy newydd ar y safle ac fe gafodd ei gymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol,” meddai’r datganiad.

“Mae’r Cyngor yn croesawu’r posibilrwydd o ddatblygu mwy o lety fforddiadwy yn Butetown i ddiwallu anghenion pobl leol am gartrefi o ansawdd da.

“Mae’r Cyngor yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella bywydau trigolion Butetown ac mae’n parhau i fuddsoddi yn yr ardal er budd y gymuned leol, gan gynnwys cynlluniau i wella cyfleusterau chwaraeon ym Mharc y Gamlas, buddsoddiad mewn ysgolion ar gyfer plant lleol, a nifer o gynlluniau adeiladu tai cyngor yn yr ardal.”