Mae Boris Johnson wedi gwrthod dweud a fyddai’n cyflwyno her gyfreithiol i ail refferendwm annibyniaeth yr Alban, os bydd Nicola Sturgeon yn bwrw ymlaen â phleidlais arall heb gytundeb gweinidogion y Deyrnas Unedig.

Yn hytrach, tynnodd y Prif Weinidog sylw at frechlyn coronafeirws AstraZeneca fel enghraifft wych o “gryfderau a manteision” y Deyrnas Unedig.

Daeth ei sylwadau wedi i’r SNP ryddhau “trywydd” 11 pwynt i refferendwm annibyniaeth – lle’r oedd yn egluro y gellid cynnal pleidlais pe bai etholiadau Holyrood ym mis Mai yn arwain at fwyafrif o blaid annibyniaeth, hyd yn oed os yw San Steffan yn gwrthod caniatáu gorchymyn Adran 30.

“Manteision ein hundeb gwych”

Erbyn hyn, mae 20 pôl piniwn yn olynol wedi awgrymu y gallai mwyafrif Albanwyr bleidleisio o blaid annibyniaeth.

Ac os bydd etholiadau Holyrood ym mis Mai yn arwain at fwyafrif o Aelodau o’r Senedd o bleidiau sy’n cefnogi gadael y Deyrnas Unedig, dywedodd Ysgrifennydd y Cyfansoddiad, Mike Russell, nad oedd yn credu yn yr amgylchiadau hynny y byddai San Steffan yn gosod her gyfreithiol i bleidlais o’r fath.

Dywedodd: “Rwy’n credu ei bod yn beth gwael i unrhyw lywodraeth ddweud: ‘Hyd yn oed os bydd pobl yr Alban yn pleidleisio dros rywbeth, byddwn yn mynd â nhw i’r llys i’w hatal.”

Cafodd Boris Johnson ei bwyso ar y mater wrth iddo ymweld â safle brechu coronafeirws yng Nghlwb Pêl-droed Barnet yng Ngogledd Llundain, gyda’r Prif Weinidog yn siarad am “fanteision ein hundeb gwych”.

Dywedodd y Prif Weinidog, sydd wedi egluro nad yw’n cefnogi ail bleidlais annibyniaeth: “Mae’r Deyrnas Unedig gyfan yn mynd drwy bandemig ac rwy’n credu mai’r hyn y mae pobol y Deyrnas Unedig am ei weld yw pawb yn canolbwyntio ar guro’r pandemig hwnnw, drwy gyflwyno’r brechlyn, a pharatoi i adfer ar ôl y pandemig a chael yr adferiad economaidd cryfaf posibl.

“Rwy’n credu y gall pobl hefyd weld manteision gweladwy ein hundeb gwych ym mhobman yn y Deyrnas Unedig.”

Annibyniaeth “ddim yn anochel”, meddai Douglas Ross

Yn y cyfamser, cododd arweinydd Ceidwadwyr yr Alban Douglas Ross bryderon bod yr Alban yn “syrthio ymhellach ar ôl” y Deyrnas Unedig o ran y rhaglen frechu.

Dywedodd fod pandemig y coronafeirws wedi dangos sut roedd y Deyrnas Unedig wedi “dod at ei gilydd i gefnogi pob rhan o’r wlad”.

Wrth siarad am yr SNP, dywedodd: “Dylen nhw fod yn brwydro i ddiogelu swyddi, dylen nhw fod yn brwydro i amddiffyn y busnesau sy’n ceisio goroesi, yn hytrach nag ymladd am refferendwm annibyniaeth ymrannol arall.”

Mynnodd nad oedd “yn anochel” y bydd yr SNP yn ennill mwyafrif yn etholiadau Senedd yr Alban ym mis Mai – er gwaethaf polau sy’n dangos plaid Nicola Sturgeon ar y trywydd iawn i ennill mwyafrif.

Ychwanegodd Mr Ross: “Nid yw annibyniaeth yn anochel chwaith, mae’n rhaid i ni newid y naratif hwnnw.”

Y Ceidwadwyr yn “ofni democratiaeth”

Dywedodd AoS yr SNP Rona Mackay: “Mae Douglas Ross – yn union fel ei feistr Boris Johnson – yn ofni democratiaeth.

“Prin fod hyn yn ddadl gan blaid sydd â hyder yng nghryfder ei dadleuon.

“Mae gan wrthbleidiau hawl i wrthwynebu annibyniaeth – ond yn sicr nid oes ganddyn nhw hawl i wadu cyfle i bobol yr Alban benderfynu ar eu dyfodol eu hunain.

“Mae’r Torïaid yn ofni dyfarniad y bobol ond ni fydd yr ymgais hon i wadu canlyniadau etholiadau rhydd a theg yn dal dŵr.”