Bydd Gweinidogion yn penderfynu “yn fuan” a ddylid ymestyn y cynnydd o £20 yr wythnos i Gredyd Cynhwysol, meddai’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau.

Dywedodd Therese Coffey fod y Llywodraeth am ymestyn ei chefnogaeth “drwy gydol effaith” pandemig y coronafeirws, ond gwrthododd warantu y byddai’r cynnydd yn parhau.

Dywedodd ei bod mewn “trafodaeth weithredol” gyda’r Canghellor ynghylch a ddylid cadw’r cynnydd yn ei le y tu hwnt i fis Mawrth.

Cafodd y cynnydd ei gyhoeddi y llynedd i gefnogi teuluoedd sy’n cael trafferth yn ystod yr argyfwng Covid-19 ond mae i fod i ddod i ben ddiwedd mis Mawrth.

Fodd bynnag, mae Rishi Sunak o dan bwysau, gan gynnwys gan rai ASau Torïaidd, i’w ymestyn tra bod y cyfyngiadau symud yn dal i fod mewn grym.

Dywedodd Therese Coffey wrth BBC Breakfast: “Rydym yn cynnal trafodaethau gyda’r Trysorlys, gan weithio i sicrhau ein bod yn darparu’r gefnogaeth orau i bobl drwy gydol y pandemig hwn.

“Gallaf eich sicrhau ein bod yn ystyried yr opsiynau a’r ffordd orau o gefnogi pobol yn ystod y cyfnod hwn ac rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu dod i benderfyniad yn fuan.”

Ychwanegodd: “Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’r Trysorlys fel y gallwn sicrhau bod gennym y penderfyniad gorau y gobeithiaf y bydd y Prif Weinidog yn gallu ei gyhoeddi cyn bo hir.”

“Achubiaeth”

Dywedodd Therese Coffey yn ddiweddarach wrth raglen Today ar BBC Radio 4 fod y cynnydd wedi bod yn “achubiaeth” i bobol a dywedodd fod y Llywodraeth am geisio “ymestyn ein cefnogaeth drwy gydol effaith y pandemig hwn”.

Pan ofynnwyd iddi a oedd hynny’n golygu y bydd y cynnydd neu gymorth ychwanegol arall yn parhau am weddill y flwyddyn, dywedodd: “Rwy’n credu ei bod yn deg dweud fy mod yn cynnal trafodaethau gweithredol gyda’r Canghellor ac wrth gwrs gyda’r Prif Weinidog ynglŷn â sut rydym yn parhau i sicrhau ein bod yn cefnogi teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Yn y cyfamser, nid oedd Downing Street yn gwadu adroddiadau bod taliad untro o £1,000 yn cael ei ystyried yn lle’r cynnydd wythnosol o £20 wythnos mewn Credyd Cynhwysol.

“Mater i’r Canghellor”, meddai llefarydd Boris Johnson

Dywedodd llefarydd swyddogol y Prif Weinidog nad oedd unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud eto ynghylch pa gymorth i’w gynnig unwaith y daw’r cynnydd o £20 i ben.

“Drwy gydol yr argyfwng hwn rydym wedi sicrhau ein bod wedi gofalu am y rhai sydd fwyaf agored i niwed a byddwn yn parhau i asesu’r cyd-destun o ran yr economi ac iechyd i benderfynu ar y ffordd orau o barhau i gefnogi pobl sydd angen ein cymorth,” meddai’r llefarydd.

“Mae’n dal yn wir fod gan y cynnydd i Gredyd Cynhwysol rai misoedd ar ôl i redeg tan fis Ebrill, ac nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud arno ymhellach i hynny.”

Pan ofynnwyd a oedd Boris Johnson yn cefnogi taliad o £1,000 i bobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol, dywedodd y llefarydd: “Mater i’r Canghellor ydyw, ond unwaith eto byddwn yn tynnu sylw at y gefnogaeth yr ydym wedi’i rhoi i bobl ar incwm isel a’r rhai sydd fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas drwy gydol y pandemig.”