Mae Aelod o’r Senedd y Rhondda, Leanne Wood, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan ddisgyblion fynediad at y rhyngrwyd wrth i’r cyfnod clo barhau.

Yn ôl Leanne Wood, mae hi’n hanfodol fod gan bob plentyn yng Nghymru ddyfais a mynediad at y rhyngrwyd, fel nad ydynt yn disgyn ar ei hôl hi yn yr ysgol.

Yn ôl yr Aelod Plaid Cymru, cysylltodd athrawes ysgol uwchradd yn y Rhondda â hi, gan ddweud bod un o’i disgyblion wedi dweud wrthi na allai ymuno mewn gwersi byw mwyach oherwydd ei bod “wedi gwario ei holl arian Nadolig ar ddata.”

Ysgrifennodd Leanne Wood at y Prif Weinidog i alw am ddata diderfyn am ddim i bob disgybl yng Nghymru sydd ei angen.

Y ‘rhaniad digidol’

“O ystyried y bydd y clo llawn yn para am wythnosau (a misoedd o bosib), rwyf yn pryderu am y rhaniad digidol sy’n bodoli yng Nghymru; o ran mynediad at fand eang a mynediad at ddyfeisiadau,” ysgrifennodd.

“Gwn fod eich llywodraeth wedi neilltuo arian i ddarparu dyfeisiadau i rai aelwydydd – a bod elusennau wedi gwneud gwaith da yn y maes hwn – ond bron i 12 mis wedi’r cyfnod clo cyntaf, rwyf yn dal i weld pobl yn y Rhondda heb fynediad at ddyfeisiau na rhyngrwyd yn eu cartrefi.

“Rwy’n siŵr bod hyn yn wir ledled Cymru. Dyw hyn ddim yn deg, a’r cyfan a wnaiff yw gwaethygu’r cysylltiad rhwng cyrhaeddiad gwael a thlodi yng Nghymru.

“Rwy’n eich annog i wneud popeth yn eich gallu i sicrhau y caiff plant mewn tlodi yn ein gwlad yr un cyfleoedd a phlant mewn tlodi yn Lloegr o ddiwedd Ionawr ymlaen.

“Fydd modd i chi gynnal trafodaethau rhag blaen i sicrhau y bydd cynllun ar batrwm ‘Dysgu yn y Clo’ ar waith yng Nghymru cyn gynted ag sydd modd? Rwyf yn edrych ymlaen hefyd at ddeall sut y byddwch yn nodi’r cartrefi hynny sydd yn dal heb fynediad at ddyfeisiadau a’ch cynlluniau i unioni hyn.’

“Torcalonnus”

Ychwanegodd Leanne Wood: “Mae’n dorcalonnus clywed fod plant o hyd heb fynediad at ddyfeisiadau na’r rhyngrwyd.

“Os na fydd rhywbeth yn cael ei wneud, bydd y plant hyn yn cael eu gadael ar ôl, a dyw hynny ddim yn deg.

“Ni ddylai plant orfod gwario eu harian Nadolig i brynu data ychwanegol er mwyn cadw i fyny â’u cyfoedion , fel yr achos y clywais amdano’r wythnos hon.

“Digon yw digon. Mae arnom angen gweithredu cyflym gan y Llywodraeth Lafur yn hyn o beth.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Rydym wedi cael sgyrsiau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a darparwyr ffonau symudol i weld a allai’r gwasanaeth hwn ategu’r cynnig presennol a ddarparwn i ysgolion yng Nghymru.

“Ers y pandemig, rydym wedi darparu tua 106,000 o ddyfeisiau i ysgolion, gyda 35,000 o ddyfeisiau pellach o fewn yr wythnosau nesaf. Rydym hefyd wedi darparu dros 10,000 o ddyfeisiau MiFi i sicrhau bod dysgwyr yn gallu defnyddio’r rhyngrwyd.

“Yn ei adolygiad annibynnol diweddar, oedd yn cymharu sut roedd llywodraethau gwledydd y Deyrnas Unedig yn cefnogi addysg disgyblion drwy gydol y pandemig, dywedodd yr Education Policy Institute fod Cymru wedi ‘arwain y ffordd’ wrth ddarparu’r gwasanaeth hwn.”

Ysgolion uwchradd a cholegau addysg bellach i addysgu ar-lein o ddydd Llun ymlaen

Ond “nid gwyliau Nadolig cynnar yw hyn” medd y Gweinidog Addysg