Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi dweud nad yw hi’n debygol y bydd yno “lacio sylweddol” i gyfyngiadau Cymru pan fydd Llywodraeth Cymru eu hadolygu ar ddiwedd yr wythnos hon.

Daeth cyfyngiadau cenedlaethol i rym yng Nghymru ar Ragfyr 20.

Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu rheolau Covid-19 yn ffurfiol – gan gynnwys cau ysgolion – bob tair wythnos, ac mae disgwyl i’r adolygiad nesaf gael ei gynnal ar Ionawr 29.

Erbyn hyn mae gan Gymru gyfradd o 231 o achosion Covid-19 fesul 100,000 o bobol, i lawr o 270 o achosion fesul 100,000 ddydd Gwener, Ionawr 22.

Ond dywedodd Vaughan Gething fod cyfradd y profion cadarnhaol yn dal yn uwch na 10%, a bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o dan bwysau sylweddol.

Yr amrywiolyn

Aeth ymlaen i ddweud fod nifer yr achosion o amrywiolyn cyflymach o’r feirws yng Nghymru yn golygu bod awdurdodau’n amharod i newid cyfyngiadau’r wlad yn sylweddol, hyd yn oed os byddan nhw’n cael  eu llacio mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

“Wrth gwrs mae’r un heriau sy’n ein hwynebu yn cael eu canfod mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig hefyd,” meddai wrth ohebwyr yng Nghaerdydd heddiw (Ionawr 15).

“Gall y cyd-destun fod ychydig yn wahanol, ond mae’n dal yn wir fod pwysau enfawr ar ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac nid ydym mewn sefyllfa i wneud unrhyw lacio sylweddol.”

Ychwanegodd fod yr amrywiolyn coronafeirws o Gaint wedi “lledaenu gryn dipyn yn fwy ar draws Cymru” na’r disgwyl.

“Rydyn ni nawr yn credu ei fod yn gyfrifol am o leiaf hanner yr achosion newydd yn ne a chanolbarth Cymru, yn ogystal ag o leiaf 70% o achosion yng ngogledd Cymru hefyd, mae’n debyg.”

  • Gallwch ddarllen am gyfraddau brechu Cymru a chyfraddau achosion ardaloedd yr awdurdodau lleol isod.

“Rydym wedi brechu 8.7% o’r boblogaeth mewn saith wythnos yn unig” medd y Gweinidog Iechyd

Ond data ddim yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd y targed o 70% o bobl 80 oed a throsodd hyd yma

Cyfraddau Covid-19 wythnosol diweddaraf ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru

Cyfraddau’n gostwng ym mhob ardal leol ar hyn o bryd, gyda’r gostyngiad mwyaf yn Wrecsam