Dylai’r cyfyngiadau ar yfed a gyrru fod yn llymach yng Nghymru a Lloegr – a hynny oherwydd methiant i leihau marwolaethau o ddamweiniau.
Dyna argymhelliad astudiaeth sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig – y dylid torri’r cyfyngiad o fwy na thraean, a’i leihau i sero ar gyfer gyrwyr proffesiynol a rhai newydd.
Dywed y Cyngor Ymgynghorol Seneddol dros Ddiogelwch Trafnidiaeth y byddai hyn yn cael “effaith buddiol hirdymor”.
Mae’n honni y bydd y Llywodraeth “yn cael ei beirniadu am byth am fod ar ôl gwledydd eraill” os na fydd yn gwneud hynny.
Terfyn uwch nag unrhyw le yn Ewrop
80mg mewn 100ml o waed fu’r terfyn yng Nghymru a Lloegr ers 1967.
Nid oes gan unrhyw wlad arall yn Ewrop derfyn sy’n uwch na 50mg/100ml, yn ôl yr astudiaeth.
Yn 2014, lleihaodd Llywodraeth yr Alban y terfyn i’r lefel honno.
Pasiodd Cynulliad Gogledd Iwerddon ddeddfwriaeth i ddilyn gostyngiad yr Alban yn 2018, ond nid yw wedi dod i rym eto.
Dros y degawd diwethaf, mae tua 240 o bobol wedi cael eu lladd bob blwyddyn ar ffyrdd gwledydd Prydain mewn gwrthdrawiadau sy’n cynnwys gyrrwr meddw.
Mae’n debyg bod gostyngiadau wedi lleihau’r damweiniau marwol mewn nifer o wledydd gan gynnwys Awstralia, Brasil, Ffrainc, Japan, Serbia, Sweden, y Swistir a’r Unol Daleithiau, meddai Cyngor Ymgynghorol Seneddol dros Ddiogelwch Trafnidiaeth.
Siaradodd llawer o’r gyrwyr a gafodd eu cyfweld ar gyfer yr astudiaeth am “ansicrwydd ynghylch beth oedd y cyfyngiad yfed a gyrru presennol yn ei olygu” ac esboniodd nad oedden nhw yn gweld diben cael un ddiod yn unig.
Cosbau mwy difrifol
Galwodd yr adroddiad – dan arweiniad Prifysgol Stirling a Phrifysgol Dundee – hefyd am gyflwyno cosbau mwy difrifol i yrwyr sy’n cyfuno alcohol a chyffuriau.
Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol Cyngor Ymgynghorol Seneddol dros Ddiogelwch Trafnidiaeth, David Davies: “Ar ôl 10 mlynedd o ostyngiad yn lefelau gorfodi ac ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol wedi’u hanelu at ddynion ifanc, mae’n bryd cael dull newydd, mwy cynhwysfawr o leihau’r doll o farwolaethau ac anafiadau yfed a gyrru.
“Cyfeirir yn aml at yfed a gyrru fel llwyddiant diogelwch ar y ffyrdd, ac eto mae’n dal yn gyfrifol am nifer fawr o farwolaethau ac mae’r cynnydd wedi dod i ben ers 2010.
“Nid yn unig y mae gorfodi gwell yn bwysig ond hefyd mae angen cydnabod materion iechyd meddwl a dibyniaeth ar alcohol.”