Mae disgwyl i deithwyr i Gymru orfod hunanynysu fel rhan o reolau cwarantîn Llywodraeth Prydain sy’n debygol o gael eu cyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 26).

Gyda Maes Awyr Caerdydd ynghau, mae unrhyw un sy’n dod i Gymru o dramor yn gorfod cyrraedd gwledydd Prydain o’r tu allan i’r wlad, sy’n golygu bod rhaid iddyn nhw ddilyn rheolau San Steffan.

Y bwriad ar hyn o bryd yw cadw teithwyr mewn gwestai penodedig i hunanynysu.

Ond mae’r diwydiant yn rhybuddio y gallai tynhau’r rheoliadau fod yn “gatastroffig” iddyn nhw ac maen nhw’n awyddus i sicrhau mai teithwyr o’r gwledydd lle mae’r perygl mwyaf – gan gynnwys Brasil, De Affrica a Phortiwgal – fydd yn gorfod mynd i gwarantîn.

Mae disgwyl penderfyniad yn dilyn cyfarfod o’r Pwyllgor Covid-O yn ystod y dydd, ond dydy Downing Street ddim wedi gwneud sylw.

Mae’r fath gwarantîn eisoes ar waith yn Awstralia, Tsieina, Seland Newydd, India, Singapôr, y Ffilipinaas, Taiwan, Qatar a Gwlad Thai.

Mae adroddiadau’n awgrymu y bydd rhaid i deithwyr dalu’r gost o fynd i gwarantîn am ddeng niwrnod, allai gyfateb i fwy na £1,000.

Mae hediadau uniongyrchol i wledydd Prydain o Dde Affrica, Brasil a Phortiwgal wedi’u gohirio, ond gall trigolion gwledydd Prydain deithio oddi yno’n anuniongyrchol drwy fynd i wledydd eraill cyn hunanynysu wrth ddod adref.

Ymateb y diwydiant

Mae gwestai Best Western yn dweud eu bod nhw’n aros am sêl bendith gan Lywodraeth Prydain i ddarparu llety “diogel” ar gyfer pobol sy’n hunanynysu wrth deithio i wledydd Prydain.

“Rydyn ni wedi treulio naw mis yn gwneud y gwaith cartref a’r gwaith caled y tu ôl i’r llenni yn cydweithio â rhai o brif bobol a sefydliadau meddygol y Deyrnas Unedig i roi’r gweithdrefnau a’r polisïau ar waith i wneud hyn yn iawn ac yn ddiogel, i westeion a staff,” meddai Andrew Denton, pennaeth gwestai Best Western GB.

“Rydyn ni’n disgwyl cyhoeddiad gan y Llywodraeth.

“Mae gwestai Best Western yn barod i gamu i mewn, helpu a chyfrannu at reoli ymlediad y feirws ar yr adeg hon o angen cenedlaethol.”

Ond mewn datganiad ar y cyd, dywed Cymdeithas Gweithredwyr y Meysydd Awyr ac Airlines UK fod gan wledydd Prydain “rai o’r cyfyngiadau llymaf yn y byd” ac y byddai cyflwyno rhagor o gyfyngiadau’n “gatastroffig”.