Mae’r broses o uchelgyhuddo Donald Trump, cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, gam yn nes ar ôl i ddogfennau perthnasol gael eu cyflwyno i Senedd y wlad.
Fe wnaeth naw o erlynwyr gludo dogfennau’n ymwneud â chyhuddiad o “annog gwrthryfel” ar draws y Capitol ddoe (dydd Llun, Ionawr 25) – yr un llwybr â’r protestwyr ychydig wythnosau yn ôl.
Serch hynny, mae’r Gweriniaethwyr bellach yn dawel yn eu gwrthwynebiad i’r cyn-Arlywydd ers Ionawr 6 ac mae’r blaid yn cyflwyno cyfres o ddadleuon sy’n codi amheuon am ba mor briodol yw cynnal yr achos ac a oedd ei wrthwynebiad i ganlyniad yr etholiad arlywyddol yn gyfystyr ag annog gwrthryfel.
Mae’r Democratiaid, ar y cyfan, o’r farn fod y byd wedi gweld y weithred ar waith wrth i’r golygfeydd treisgar gael eu darlledu’n fyw ar y cyfryngau.
Ac mae lle i gredu erbyn hyn bod gwleidyddion yn ofni’r ymateb pe baen nhw’n mynd â’r achos yn ei flaen – gan brotestwyr a chefnogwyr dylanwadol y Gweriniaethwyr o’u safbwynt nhw, ac mae’r Democratiaid yn ofni mynd i’r afael â sefyllfa fregus mor gynnar yng nghyfnod yr Arlywydd Joe Biden wrth y llyw.
Ond mae Joe Biden yntau’n mynnu bod “rhaid” i’r achos fynd rhagddo, gan ddweud y byddai’r “effeithiau’n waeth” ar ei arlywyddiaeth pe na bai hynny’n digwydd.
Er nad yw’n credu y byddai digon o Weriniaethwyr yn cefnogi’r ymdrechion i uchelgyhuddo’i ragflaenydd, mae’n dweud y gallai’r canlyniad fod wedi bod yn wahanol iawn pe bai wedi digwydd yn ystod cyfnod Donald Trump wrth y llyw.