Mae Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, ac Elin Jones, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Geredigion, yn dweud eu bod nhw’n cefnogi’r “penderfyniad anodd” i ohirio Eisteddfod Genedlaethol y sir am flwyddyn arall.
Y bwriad bellach yw cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ym mis Awst 2022, gan symud Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd i Awst 2023, a chynnal yr Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf yn 2024.
‘Chwith iawn’
“Mae’n chwith iawn peidio bod yn rhan o fwrlwm y paratoi a mynychu’r Eisteddfod ar wythnos gyntaf mis Awst eleni eto,” meddai Ellen ap Gwynn.
“Er hyn, mae’n rhaid sicrhau iechyd a diogelwch pawb.”
Fe awgrymodd arweinydd Cyngor Sir Ceredigion wrth golwg360 yn fuan ar ôl gohirio’r Eisteddfod yn wreiddiol na fyddai modd cynnal yr ŵyl yn 2021 chwaith.
“Dim ar chwarae bach mae trefnu Eisteddfod nac ychwaith paratoi i gystadlu a mynychu. Gyda’r holl gynllunio sydd angen ei wneud, dyw hi ddim yn ymarferol bosib i’w chynnal,” meddai.
“Edrychwn ymlaen at groesawu pawb i Geredigion pan mae hi’n ddiogel i wneud hynny.”
‘Gwarchod y syniad o Eisteddfod a hanner’
Golyga’r penderfyniad, bydd hi’n 30 mlynedd union ers yr Eisteddfod Genedlaethol ddiwethaf yng Ngheredigion erbyn iddi gael ei chynnal – cafodd yr Eisteddfod ddiwethaf yn y Sir ei chynnal yn Aberystwyth yn 1992.
“Rydyn ni am warchod y syniad o Eisteddfod a hanner ar gaeau Tregaron a’i gwarchod hi tan 2022,” meddai Elin Jones, cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Tregaron wrth BBC Radio Cymru yn dilyn y cyhoeddiad.
“Mae’n siomedig, roedd pwyllgor gwaith yr Eisteddfod wedi cwrdd neithiwr, ac yr ymateb yw bod pawb yn siomedig ond pawb yn deall y penderfyniad yn iawn hefyd.
“Y dymuniad yng Ngheredigion yn sicr yw gweld Eisteddfod sy’n llawn, yn ddirwystr, a llawn hwyl.
“Byddem ni byth wedi dychmygu pan gymeron ni’r penderfyniad y llynedd i ohirio, y byddem ni eto’n wynebu’r un sefyllfa.
“Mae’n sicr bydd hir aros amdani erbyn y flwyddyn nesaf, ac y bydd pobol Ceredigion yn groesawgar ac yn falch o’i chynnal erbyn hynny.”
‘Blwyddyn heriol arall’
Tra bod y penderfyniad yn un “anochel”, eglurodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, fod yr brifwyl yn wynebu blwyddyn “arall hynod o heriol”.
Cadarnhaodd fod yr Eisteddfod Genedlaethol wedi dechrau proses ymgynghori gyda staff er mwyn lleihau’r tîm i hanner ei faint er mwyn gallu goroesi’r cyfnod nesaf.
Eglurodd y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn trafod y sefyllfa gyda Llywodraeth Cymru dros y misoedd nesaf.
Yn y cyfamser, mae Siân Gwenllian AoS eisoes wedi galw am gefnogaeth ychwanegol i warchod y sefydliad.
Gyda dau o’n sefydliadau pwysig dan fygythiad (gweler cyhoeddiad Steddfod) mae’n rhaid i’r Llywodraeth gamu i’r bwlch ar frys gyda chefnogaeth ariannol. / Government must step in to support our National Library & National Eisteddfod to avoid long term damage to Welsh culture. https://t.co/xV2NNsrIWI
— Siân Gwenllian AS/MS (@siangwenfelin) January 26, 2021