Ar drothwy Wythnos Lleoliadau Annibynnol eleni, mae Neuadd Ogwen a Gruff Rhys wedi lansio eu gŵyl rithiol, Ara Deg 2020.

O ystyried ei bod hi’n amhosib croesawu cynulleidfa i’r ŵyl y llynedd, cafodd y cerddorion y cyfle i ddod i’r Dyffryn i recordio’u perfformiadau – gan ddefnyddio golygfeydd godidog yr ardal fel cefndir.

Y bwriad oedd creu “fersiwn gryno, ddigidol o’r ŵyl na fu”.

Bellach, mae modd gweld a chlywed perfformiadau gan Gruff Rhys, sydd wedi curadu’r ŵyl, Brìghde Chaimbeul, N’famady Kouyaté, Cerys Hafana a’r telynor Rhodri Davies – yn rhad ac am ddim.

Troi digwyddiad yn ŵyl

Cafodd gŵyl Ara Deg ei chynnal am y tro cyntaf yn 2019 – drwy hap a damwain yn fwy nag dim, fel yr eglura Dilwyn Llwyd, rheolwr Neuadd Ogwen.

“Oni ‘di bod yn holi Gruff – oedd o’n dod i Fethesda weithiau ac oedden ni’n cael sgwrs ynglŷn â be fysa ni’n gallu neud fel gig,” meddai.

“Ond yn lle meddwl am gig – be am i ni feddwl gwneud rhywbeth bach mwy gwahanol – felly dyma ni’n penderfynu gwneud diwrnod cyfa’ ohoni.

“Unwaith roedd ganddo ni dri diwrnod o ddigwyddiadau a llenyddiaeth a ballu – roedd hi’n amlwg wedi troi’n ŵyl…!

“Mwy na’m byd oherwydd mai Gruff sy’n curadu’r peth – a bod ganddo fo gymaint o syniadau.”

“Galluogi i ni neud pethau eithaf diddorol”

Er gwaethaf rhai heriau amlwg, gan gynnwys diffyg cynulleidfa, dywed Dilwyn Llwyd fod yna fanteision o gynnal gŵyl rithiol.

“Mae covid yn sefyllfa drist uffernol,” meddai.

“Ond mae o wedi gwthio ni i neud rhywbeth fyswn ni byth wedi ei wneud fel arall.

“Be oedden ni’n ffeindio – oedd o’n galluogi i ni neud pethau diddorol a mynd i leoliadau diddorol a jest mynd allan i’r gymuned.

“Os wyt ti’n cynnal digwyddiad mewn lleoliad arbennig – dydi o ddim am berfformiad yr artist yn unig, mae o am y lleoliad hefyd.

“Mae’r tirwedd yn arbennig a fysa ni’n wirion yn peidio cymryd mantais ohono fo.”

Dywed fod y profiad wedi profi bod yna le i arbrofi ymhellach gyda pherfformiadau awyr agored yn y dyfodol, sydd hefyd â’r potensial i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach.

“Neis cael bod yng nghwmni cerddorion mor ffantastig” 

Un o berfformwyr yr ŵyl yw’r cerddor talentog Rhodri Davies, sy’n cael ei ddisgrifio fel “un o delynorion mwyaf radical ein canrif”.

“Bydde fe wedi bod yn brofiad digon arbennig i fynd yna ta beth,” meddai.

“Ond oedd e hyd yn oed mwy arbennig am ei bod hi mor brin fy mod yn mynd i weithio eleni!

“Ma’ fe’n neis cael bod yng nghwmni cerddorion mor ffantastig – mae o (Gruff Rhys) wedi rhoi llawer o feddwl i mewn i bwy mae o wedi gofyn.

“Mae’r lefel yn uchel iawn ac rwy’n hapus iawn fy mod wedi cael fy ngwahodd.”

I gyd-fynd â’r lansiad heddiw, mae Neuadd Ogwen wedi rhyddhau nifer gyfynedig o docynnau ar gyfer Gŵyl Ara Deg 2021, sydd i’w chynnal yn fyw ym mis Awst eleni.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys perfformiadau gan Gruff Rhys, Brìghde Chaimbeul a Yann Tiersen.

 

Enwi Gruff Rhys yn llysgennad Cymru Wythnos Lleoliadau Annibynnol

Huw Bebb

“Rydyn ni’n uffernol o lwcus i gael Neuadd Ogwen yng ngogledd Cymru,” medd Rhys Mwyn am y lleoliad fydd yn cynnwys un o’r prif ddigwyddiadau