Mae disgwyl eira a glaw ar fryniau Cymru a rhew ar draws rhannau helaeth o’r wlad yn ystod y dydd heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 26).

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion melyn am yr eira a’r rhew.

Mae rhybudd i deithwyr fod yn ofalus oherwydd y rhew ar ffyrdd sydd heb eu trin ac ar balmentydd.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae gwledydd Prydain wedi gweld y cyfanswm mwyaf o eira ers Ionawr 2019 dros y dyddiau diwethaf.

Ond mae disgwyl iddi fod yn fwy mwyn, yn wlypach ac yn fwy gwyntog weddill yr wythnos.