Mae ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos bod diweithdra ar gynnydd yng Nghymru ac yng ngwledydd Prydain.

Yng Nghymru, mae 4.6% o bobol yn ddi-waith, o’i gymharu â 5% trwy wledydd Prydain.

Roedd 71,000 o bobol yn ddi-waith ac yn chwilio am waith yng Nghymru ym mis Tachwedd y llynedd – 14,000 yn fwy na’r tri mis hyd at fis Awst.

Roedd 32,000 yn fwy yn ddi-waith yng Nghymru o gymharu â’r un cyfnod flwyddyn ynghynt, a 800,000 yn fwy ledled gwledydd Prydain.

Y celfyddydau, adloniant a lletygarwch yw’r sectorau sydd wedi eu taro waethaf.

Gan fod cyflogau misol cyfartalog yng Nghymru wedi codi gan 5.4% i £1,784 mae’r ffigurau yn awgrymu mai swyddi cyflog isel sydd wedi’u colli yn ystod y cyfnod.

Mae’r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn parhau’n is na gwledydd eraill Prydain, ond mae’r gyfradd yn tyfu’n gynt nag yn unrhyw ran arall oni bai am Lundain.

‘Cynllun ffyrlo yn cuddio’r gwir’

Rhybuddia Helen Mary Jones, llefarydd economi Plaid Cymru, y gallai’r ffigurau fod lawer yn uwch mewn gwirionedd.

“Mae cynnydd mewn ffigurau diweithdra tra bod y cynllun ffyrlo ar waith yn peri pryder, gan fod y cynllun yn sicr o guddio’r darlun cywir,” meddai.

Mae Jane Dodds, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, hefyd wedi ategu’r un neges.

“Bydd y cynnydd bach hwn mewn ffigurau diweithdra yn ergyd i lawer yn enwedig y rhai a ddiswyddwyd yn ddiweddar sy’n awyddus i ddychwelyd i’r gwaith,” meddai.

“Mae cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU yn cadw pennau llawer uwch ben y dŵr, ond nid yw’n ateb cynaliadwy os bydd y pandemig hwn yn parhau.”

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn galw am greu Cronfa Swyddi Gwyrdd tra bod Plaid Cymru yn dweud mai codi’r terfyn benthyca dros dro yw’r ateb er mwyn sefydlogi’r economi yng Nghymru.

Cyfradd ddiweithdra Cymru wedi codi yn sylweddol yn sgil y coronafeirws

15,000 yn fwy o bobol yn ddi waith nag yn y tri mis hyd at fis Mai