Mae mwy na 6.5m o bobol wedi cael dos cyntaf o un o’r brechlynnau coronafeirws, ond mae pryderon bod gwybodaeth gamarweiniol yn arwain at bobol yn dewis peidio â chael eu brechu.
Mae’n debyg bod 250 o bobol yn cael eu brechu bob munud, ond mae gwybodaeth yn dal i gael ei rhannu’n eang, naill ai gan nad yw pobol yn deall y sefyllfa neu am eu bod nhw’n ceisio dylanwadu’n fwriadol ar bobol i ddewis peidio â chael eu brechu.
Ond mae amryw o arbenigwyr wedi bod yn mynd i’r afael â’r sïon gan ddangos pam na ddylai pobol eu credu.
1. Dydy brechlynnau ddim yn orfodol
Mae fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn honni, oherwydd cyfyngiadau’r coronafeirws, fod brechlynnau’n orfodol, ac y bydd pobol yn cael eu cadw dan glo yn eu cartrefi hyd nes y byddan nhw wedi cael brechlyn, ac y bydd eu plant hefyd yn cael eu gorfodi i gael eu brechu.
Dydy hyn ddim yn wir.
Mae gwleidyddion wedi bod yn pleidleisio drwy gydol y cyfnodau clo ar gyfyngiadau, gan nodi o dan ba amgylchiadau y dylai pobol adael eu cartrefi.
Ond doedd cael brechlyn cyn cael mynd allan ddim yn un ohonyn nhw, ac all plant ddim cael eu brechu heb ganiatâd eu rhieni yn ôl y gyfraith.
2. Dydy’r brechlyn ddim yn halal nac yn cynnwys cynnyrch porc
Fe fu adroddiadau bod y brechlynnau’n cynnwys gelatin – cynnyrch nad yw’n addas ar gyfer llysieuwyr ac sy’n groes i rai crefyddau.
Ond mae cynhyrchwyr y brechlynnau’n dweud nad oes yna gynhwysion na chelloedd anifeiliaid yn y brechlynnau.
Mae arbenigwyr meddygol yn argymell y dylai Mwslimiaid bregus gael eu brechu, ac mae sawl mosg ac arweinwyr Islamaidd yn trefnu ymgyrchoedd yn annog pobol i gael brechlyn.
Yn ôl Mwslimiaid, mae gwarchod bywydau’n bwysig dros ben ac maen nhw’n credu bod ganddyn nhw ddyletswydd i gael brechlynnau er mwyn gwneud hynny pan fo angen.
3. Dydy brechlynnau ddim yn arwain at anffrwythlondeb
Er bod arbenigwyr yn cydnabod pryderon “dealladwy” y gall brechlynnau arwain at anffrwythlondeb, does dim tystiolaeth i brofi’r pryderon hynny.
4. Dydy brechlynnau ddim yn cynnwys darnau o ffetysau
Roedd adroddiadau ar Facebook bod y brechlyn yn cynnwys darnau o ffetws.
Fe wnaeth gwyddonwyr fanteisio ar hen ffetysau yn ystod y cyfnod ymchwil ond maen nhw’n dweud nad ydyn nhw wedi’u cynnwys yn y brechlyn.
5. Dydy’r brechlynnau ddim yn beryglus er eu bod nhw wedi cael eu cynhyrchu’n gyflym
Mae’n wir fod brechlynnau’n cael eu datblygu dros gyfnod o rai blynyddoedd fel arfer.
Ond mae hyn fel arfer am resymau ariannol wrth i wyddonwyr gynnal ymchwil cyn datblygu brechlynnu.
Y penderfyniadau ariannol sydd wedi cael eu cyflymu, nid y broses o greu’r brechlynnau, ac felly dydyn nhw ddim yn peryglu’r cyhoedd gan fod angen sêl bendith annibynnol yn y pen draw beth bynnag.
Mae’r MHRA (Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Gofal Iechyd) wedi bod yn adolygu’r dystiolaeth wrth fynd yn eu blaenau gan arbed amser ar ddiwedd y broses.
6. Does dim angen eich rhif Gwasanaeth Iechyd er mwyn cofrestru am frechlyn
Eto ar Facebook, roedd rhai pobol yn mynnu bod peidio â rhoi rhif Gwasanaeth Iechyd wrth drefnu apwyntiad i gael brechlyn yn arwain at oedi.
Ond mae’r Gwasanaeth Iechyd yn dweud bod modd trefnu apwyntiad heb rif Gwasanaeth Iechyd ac maen nhw hefyd yn pwysleisio bod negeseuon testun neu alwadau ffôn yn gofyn am arian neu fanylion banc am frechlyn yn dwyllodrus gan eu bod nhw ar gael yn rhad ac am ddim.
7. Dydy cael eich heintio â Covid-19 ddim yn golygu nad oes angen i chi gael brechlyn
Mae arbenigwyr yn pwysleisio nad yw cael eich heintio â Covid-19 yn ddigon o amddiffynfa rhag cael y feirws rywbryd eto.
Dydy arbenigwyr ddim yn gwybod eto am ba hyd mae’r brechlyn yn diogelu pobol.
8. Does dim modd i frechlyn roi Covid-19 i chi
Dydy’r brechlynnau ddim yn cynnwys y feirws ond mae eu cynhwysion yn rhoi gorchymyn i’r corff greu protîn.
Does dim modd dal y feirws o frechlyn, ond mae modd cael eich heintio heb fod gennych chi symptomau ond peidio â sylweddoli hynny tan ar ôl i chi gael eich brechu.
9. Dydy brechlynnau ddim yn newid eich DNA
Am y rhesymau sydd wedi’u nodi uchod yn rhif 8, mae’r corff yn cynhyrchu protîn sy’n dysgu’r corff i ymateb i beryglon Covid-19.
Ond dydy eich DNA ddim yn newid wrth i hyn ddigwydd.
10. Doedd un o’r bobol gyntaf i gymryd rhan mewn treialon ar gyfer brechlyn Covid-19 ddim wedi marw
Roedd adroddiadau bod Dr Elisa Granato, un o’r bobol gyntaf i gymryd rhan mewn treialon ar gyfer brechlyn Covid-19, ddim wedi marw.
Bu’n rhaid iddi droi at Twitter i wfftio’r adroddiadau, gan ddweud ei bod hi’n “mwynhau paned” wrth drydar.
11. Dydy pobol ddim yn cael eu brechu â meicrosglodyn sy’n monitro’u bywydau
Mae sawl theori ynghylch gweithredoedd Bill Gates yn sgil gwaith ei elusen wrth ddatblygu brechlynnau.
Ond does dim tystiolaeth bod sylfaenydd Microsoft, na neb arall o ran hynny, yn ceisio rhoi meicrosglodyn mewn brechlynnau ac mae Bill Gates wedi pwysleisio hyn sawl gwaith.
Mae’n bosib bod yr honiadau’n deillio o adroddiad fis diwethaf ym Massachusetts ar ôl i Bill a Melinda Gates ariannu ymchwil i ddull o encodio cofnodion meddygol cleifion drwy gynnwys hylif mewn brechlyn.
Ond doedd y brechlyn ddim wedi cael ei ddefnyddio ar unrhyw berson na thechnoleg fel meicrosglodion.