Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod y Cynllun Eiddo Fforddiadwy gyda Gostyngiad wrth Werthu, sy’n rhoi’r cyfle i bobol leol brynu eu cartref cyntaf drwy brynu darn o dir am bris gostyngol yn “gam cyntaf yn y cyfeiriad cywir”.
Heddiw, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi eu cynllun peilot newydd.
Fel rhan o’r Cynllun Eiddo Fforddiadwy gyda Gostyngiad wrth Werthu, mae darn o dir yng Nghiliau Aeron ger Aberaeron ar gael am bris gostyngol o £25,000.
Bydd angen i’r darpar brynwyr brofi eu bod wedi byw yng Ngheredigion am gyfnod parhaus o bum mlynedd a phrofi nad ydyn nhw’n berchen ar eiddo preswyl arall.
“Mae yn rhoi dechreuad i bobl ifanc”
Er ei fod yn croesawu’r cynllun, mae un cynghorydd Sir yng Ngheredigion yn dweud bod angen edrych yn fanwl ar y manylion, a sicrhau nad yw’n atal unigolion rhag dringo’r ysgol yn y dyfodol.
“Mae’r pethau ‘ma yn bwysig,” meddai Marc Davies, y Cynghorydd dros Giliau Aeron, wrth golwg360.
“Mae pob cynllun yn fantais i rywun ifanc – i fynd ar yr ysgol ac mae’n rhaid cefnogi hynny fel cymdeithas, yn enwedig yn yr ardaloedd i ni’n byw yng ngorllewin Cymru.
“Mae hyn yn rhoi dechreuad i bobl ifanc ond beth sy’n bwysig… yr un peth â’r affordable housing, yw peidio dala nhw yn ôl.
“Mae yna gymaint o bethau sydd yn eu harbed rhag cymryd y cam nesaf ar yr ysgol.”
Dywedodd mai sicrhau bod modd i bobol leol ddringo’r ysgol yn y dyfodol fydd yn dyst i lwyddiant y cynllun.
“Cam cyntaf yn y cyfeiriad cywir”
“Rydym yn croesawu’r cynllun peilot newydd gan Gyngor Ceredigion fel cam cyntaf yn y cyfeiriad cywir,” meddai Elin Hywel, cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith.
“Hoffai Cymdeithas yr Iaith weld Deddf Eiddo newydd i Gymru gyfan a fydd yn sicrhau tai lleol o safon, yn fforddiadwy i gymunedau Cymru.
“Yn ein dogfen etholiadol ‘Mwy Na Miliwn – Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb’, galwn am osod cap ar ganran yr ail gartrefi neu dai haf sydd mewn cymuned a gosod uwch-dreth ar elw landlordiaid ac ail gartrefi.
“Mae’r peilot yma i’w weld yn ymateb yn gadarnhaol i’r gofynion drwy sicrhau mai’r datblygiadau fydd unig breswyl eu perchnogion.
“Galwn yn ogystal ar ddatblygiadau trefol newydd i gael eu blaenoriaethu a’u hwyluso i fod yn rai Cymraeg, fod datblygiadau isadeiledd cymunedol yn cefnogi unrhyw ddatblygiadau preswyl a fod y Gymraeg yn flaenoriaeth i’r datblygiadau yma hefyd er myn galluogi ein targed o fil o ofodau Cymraeg newydd ar draws Cymru.”