Mae golwg360 wedi cael gwybod y bydd modd i drigolion Sgiwen drefnu apwyntiadau o yfory (dydd Mercher, Ionawr 26) ymlaen ac yn cael cyfarfod i gael gwell syniad ynghylch pryd fyddan nhw’n gallu dychwelyd i’w cartrefi a pha gefnogaeth sydd ar gael iddynt.
Daw hyn ar ôl i rai o drigolion Sgiwen, a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd mawr yno’r wythnos ddiwethaf, gael gwybod na fyddan nhw’n cael dychwelyd adref am o leiaf chwe mis.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i helpu i symud trigolion o wyth stryd yn yr ardal.
Cafodd trigolion rybudd i gadw draw o’r ardal yn sgil pryderon am eu diogelwch, a hynny’n gysylltiedig â hen safle glofaol yno.
Mae adroddiadau y gallai’r Awdurdod Glo brynu rhai o gartrefi’r pentref, ond maen nhw’n dweud na fydden nhw’n gwneud hynny oni bai bod rhaid.
“Rhwystr o dan y ddaear”
Dywedodd yr Awdurdod Glo fod y difrod wedi cael ei achosi gan rwystr o dan y ddaear a arweiniodd at y dŵr yn achosi llifogydd yn yr ardal.
Bydd y gwaith o adfer y siafft ei hun yn cymryd tri mis, yn ôl yr Awdurdod Glo, ond bydd yn rhaid adeiladu system rheoli dŵr newydd yn ddwfn o dan y ddaear i ddargyfeirio’r dŵr, a fydd yn cymryd o leiaf chwe mis.
Er bod rhai pobol wedi cael dychwelyd eisoes, mae’n annhebygol y bydd y rhai a gafodd eu heffeithio waethaf yn cael dychwelyd am gryn amser.
“Angen cael datrysiad parhaol”
Mewn datganiad, dywedodd yr Awdurdod Glo fod dŵr bellach yn dod allan o’r ddaear wrth gyffordd Drummau Road a Pharc Goshen yn y pentref.
“Mae lot o ddŵr yn disgyn oddi ar y mynydd, ac oddi ar y gwaith glo helaeth, hynafol iawn ar y bryniau uwchben,” meddai Prif Weithredwr yr Awdurdod Glo, Lisa Pinney.
“Pan fydd dŵr yn dod o hyd i lwybr newydd, mae’n tueddu i gadw at y llwybr hwnnw.
“Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw cael datrysiad parhaol i hyn, fel ein bod yn gallu rheoli’r dŵr ag adeiladu pibell barhaol newydd a fydd yn mynd â’r dŵr yn ddiogel drwy’r pentref at leoliad priodol.”
Dywedodd yr Awdurdod Glo ei bod yn “ystyried pob opsiwn” i gael cymaint o bobl yn ôl yn eu cartrefi mor gyflym a diogel â phosibl, gan gynnwys prynu rhai cartrefi gan breswylwyr.
“Weithiau rydyn ni’n prynu tai os yw’r trigolion yn hapus i’w gwerthu a bod rheswm dros fod angen gwneud hynny felly, os oedd achos o ymsuddiant go iawn er enghraifft,” meddai Lisa Pinney.
Apwyntiadau i drafod gwaith adfer a chymorth
Bydd llinell ffôn i breswylwyr ar 0800 2884268 ar gael o ddydd Mercher (Ionawr 27) am 9yh.
Bydd y rhif yn cael eu staffio bob dydd rhwng 9yb a 5yh tan ddydd Gwener, Chwefror 5, gan gynnwys y penwythnos, ac yna o ddydd Llun i ddydd Gwener cyhyd ag y bod angen.
Gall preswylwyr drefnu apwyntiadau i drafod gwaith adfer, pa gymorth ariannol sydd ar gael a threfnu cyswllt ag yswirwyr os yw’n berthnasol, ar gael dros y ffôn neu alwad fideo.
Bydd apwyntiadau wyneb yn wyneb, o fewn rheoliadau Covid, hefyd ar gael yng nghanolfan cefnogi digwyddiadau cyngor Castell-nedd Port Talbot yn Ysgol Gynradd Abbey ddydd Iau (Ionawr 28), dydd Gwener (Ionawr 29) a rhai dyddiau’r wythnos nesaf.