Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “fethu â gwarchod” pobol y Rhondda.

Daw hyn wrth i’r blaid gyflwyno cynnig yn y Senedd yn eu hannog i sefydlu ymchwiliad i’r llifogydd.

Dywed Leanne Wood, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros y Rhondda, fod “angen dysgu gwersi” ynghylch pam y digwyddodd y llifogydd a sut mae modd atal llifogydd pellach, a sut y gallan nhw warchod y rhai sydd wedi cael eu heffeithio.

“Heddiw rydym yn galw unwaith eto ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ymchwiliad annibynnol i’r llifogydd yn y Rhondda,” meddai Leanne Wood.

“Mae angen dysgu gwersi ynghylch pam gafodd cymunedau eu taro mor wael, ac yn hollbwysig, rhaid atal llifogydd pellach.

“Fe wnaeth Llafur yn San Steffan annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ymchwilio i lifogydd yn Lloegr y llynedd, cynnig gafodd ei gefnogi gan bob aelod seneddol yn y cymoedd, ac eto yng Nghymru lle mae Llafur mewn grym maen nhw’n gwrthwynebu ymchwiliad.

“Ni allwch roi pris ar ddiogelu pobol a’u cartrefi na rhoi tawelwch meddwl i bobol y byddai ymchwiliad yn ei ddwyn.

“Mae newid yn yr hinsawdd yn golygu bod tywydd garw pellach yn anochel, ond does dim rhaid i lifogydd tai fod os bydd y camau cywir yn cael eu cymryd i’w hatal.

“Ni ddylai pobol y Rhondda gael eu gorfodi i ail-fyw’r un trawma byth eto.”

“Angen gweithredu ar frys”

“Mae newid yn yr hinsawdd yn golygu bod angen gweithredu ar frys gan Lywodraeth Cymru i wella amddiffynfeydd rhag llifogydd a lliniaru’r effeithiau y bydd tywydd garw yn eu cael ar gymunedau ledled Cymru,” meddai Llyr Gruffydd, llefarydd amgylchedd Plaid Cymru.

“Mae dogfen bolisi Llafur Cymru ei hun yn ailadrodd yr angen am fuddsoddiad a mwy o wytnwch yn erbyn tywydd eithafol, gan gynnwys llifogydd.

“Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ymchwiliad ers misoedd, ac mae’n bryd iddyn nhw wrando.

“Drwy wrthod ymchwiliad i bobol y Rhondda, maen nhw’n methu â’u hamddiffyn.”